'Angen mwy o fuddsoddiad mewn prentisiaethau' i gyrraedd targed miliwn o siaradwyr Cymraeg

Newyddion S4C

'Angen mwy o fuddsoddiad mewn prentisiaethau' i gyrraedd targed miliwn o siaradwyr Cymraeg

Os ydy’r Llywodraeth nesaf o ddifri ynglŷn â chyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 mae’n rhaid cynyddu’r buddsoddiad mewn prentisiaethau.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n dweud hynny wrth lansio’i maniffesto diweddaraf.

Maen nhw’n galw am fwy o arian, fel bod modd iddyn nhw roi rhagor o gyfleoedd i bobl barhau i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol uwchradd.

“Mae angen cynyddu’r buddsoddiad sy’n mynd mewn i addysg Gymraeg a dwyieithog yn y sector drydyddol yn sylweddol," meddai Gwenllian Griffiths o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

"Dim ond 2% o’r gyllideb ar hyn o bryd sy’n cael ei wario ar y Gymraeg a dwyieithrwydd. 

"Mae 24% o’r dysgwyr yn ein coleg addysg bellach ni a sgiliau Cymraeg felly yn sicr mae angen cynyddu’r buddsoddiad hynny.

"Os ydy’r llywodraeth nesa' o ddifri ynglŷn â thargedau Cymraeg 2050, ynglŷn â chreu miliwn o siaradwyr mae’n rhaid i ni gael pobl yn defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, a’r sector drydyddol yw’r allwedd ar gyfer hynny.”

Image
Gwenllian Griffiths
Gwenllian Griffiths

Mae’r Coleg yn galw ar y llywodraeth nesa i ddarparu £1miliwn yn ychwanegol y flwyddyn i’r Coleg er mwyn cynyddu’r nifer o brentisiaid Cymraeg a dwyieithog.

Maen nhw’n awyddus i gynyddu nifer y prentisiaid mewn rhannau o Gymru lle mae cyfran uwch o siaradwyr Cymraeg fel Sir Gaerfyrddin, lle mae Hanna Griffiths yn brentis, yn gweithio gyda chleifion hŷn ar Ward Cadog, Ysbyty Glangwili.

“Cymraeg yw mamiaith fi, dyna be sy’n dod mas o ceg fi gynta'," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ma’ fe’n bwysig i fi achos fi’n delio gyda cleifion henoed ar y ward nawr, ma' nhw wedi diagnoso gyda dementia a mae fe’n bwysig achos ma' nhw’n dirywio trwy gyfrwng amser a ma' nhw’n colli’r iaith i siarad Saesneg felly dyma ble fi’n dod mewn i siarad Cymraeg ‘da nhw.

"Ma’ fe'n bwysig i fi achos fi di gwella Cymraeg fi ‘fyd wrth weithio ar y ward. Fi di dysgu terminoleg meddygol ble fi’n gallu cyfieithu o’r doctoriaid i’r cleifion.”  

'Cyfle cyfartal'

Yn ôl y Coleg, byddai mwy o fuddsoddiad yn golygu bod mwy o gyfleoedd i bobl fel Hanna.

Tra’n cydnabod bod cyfleoedd i bobl sy’n chwilio am brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn ategu’r alwad am fwy o fuddsoddiad.

Dywedodd Manon Rosser, llefarydd ar ran y ffederasiwn: “Mae’r cyfleoedd wedi datblygu lot yn ddiweddar a ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n dewis neud prentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg,

"Ond ma’ fe’n heriol iawn, a felly mae angen mwy o fuddsoddiad yn y maes er mwyn gallu cynnal y cynnydd hyn. 

"Ry’ ni isie gweld sefyllfa lle ma' cyfle cyfartal i unrhyw un ddewis neud ei prentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. “

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym am i fwy o brentisiaid ddysgu a hyfforddi trwy'r Gymraeg. 

"Rydym wedi cynyddu cyllid Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni, a gall hyn eu helpu i wneud mwy yn y sector.

Yn ogystal, mae Medr yn gweithio gyda Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynyddu prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.