Mam i ddyn gafodd ei lofruddio'n galw am ail-edrych ar y gwasanaeth prawf
Mam i ddyn gafodd ei lofruddio'n galw am ail-edrych ar y gwasanaeth prawf
Mae mam dyn gafodd ei lofruddio mewn ymosodiad erchyll, di-rybudd ym Mhorthcawl dros ddegawd yn ôl yn galw am ail edrych yn llwyr ar sut mae’r gwasanaeth prawf a’r system gyfiawnder yn gweithio.
Roedd David Braddon, y gŵr a lofruddiodd Conner Marshall yn ôl yn y llys ddechrau’r mis wedi iddo droseddu eto tra’i fod dan glo. Daeth Nadine Marshall i wybod am hyn drwy ddarllen erthygl ar y we.
“Odd dim cliw da fi na neb yn y teulu bod hyn wedi digwydd," meddai Nadine Marshall, mam Conner.
Mae’r weinyddiaeth gyfiawnder yn cydnabod ei bod hi’n gallu bod yn ofidus i deuluoedd weld troseddwyr yn ymddangos yn y cyfryngau heb rybudd, ac mae nhw’n ymchwilio i gwynion Nadine Marshall.
“Nes I godi a jyst edrych ar y ffôn fel chi’n neud, a nes i weld notification i weud bod rhywbeth wedi postio, nes i clicio fe a gweld llun o David Braddon. On i’n llefen on i jyst ddim yn gwbod be i neud, pwy i gysylltu gyda," meddai.
Mae Nadine yn rhan o’r Cynllun Cymorth i Ddioddefwyr. Fel rhan o’r cynllun mae dioddefwyr i fod i dderbyn gwybodaeth ar adegau allweddol yn ystod dedfryd y troseddwr.
Pan fydd Swyddog Cyswllt y Dioddefwyr yn cael gwybod am stori bosibl yn y cyfryngau, mae modd iddyn nhw drosglwyddo'r wybodaeth i'r dioddefwr os yw’n berthnasol.
Dyw hi ddim yn ymddangos bod hyn wedi digwydd yn yr achos yma.
“Bydden i wedi hoffi, a wedi disgwyl cael gwbod am y newid yn y sefyllfa ‘ma, dyw e ddim yn ddigon da," meddai Nadine.
Ond gyda chynifer wedi cofrestru i fod yn rhan o’r cynllun, mae ‘na bwysau ar y system.
“Y cwestiwn ydy, lle ma pen draw hyn. Be sydd wedi digwydd fan hyn mae’n debyg ydy bod y carcharor wedi camymddwyn yn y carchar a mae’n cael ei erlyn oherwydd hynny. Ydy hynny’r math o wybodaeth fydde chi’n rhannu? Hynny yw oes dyletswydd i fynd mor bell a hynny?" meddai Nic Parry, cyn farnwr yn Llys y Goron.
"Dydy hi ddim yn hawdd, mae na filoedd yn manteisio ar y cynllun yma, ond wrth gwrs, ar ddiwedd y dydd mae hon wedi dioddef trychineb enbyd, ac oherwydd hynny yn sicr, fydd yna edrych manwl i weld a allai pethe fod wedi eu gweud yn well.”
Carchar y Parc
Doedd teulu Conner Marshall ddim chwaith yn gwbod fod Braddon yn cael ei gadw yng Ngharchar y Parc, rhyw ddeng milltir o’r fan lle llofruddiwyd Conner.
“Does dim un gair i allu egluro be fi’n teimlo. Fi’n teimlo’n grac, ofnadwy o grac, dwi’n teimlo bod y strwythur, eto, wedi gadael ni lawr. Mae e jyst yn tanlinellu i fi bod dioddefwyr ddim yn bwysig, yn y strwythur cyfiawnder ar hyn o bryd," meddai Nadine.
"Dwi’n teimlo’n siomedig a dwi moyn atebion. Fi moyn i’r system cyfiawnder a gwasanaeth prawf gwrando a newid pethe yn llwyr."
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: “Roedd yr hyn ddigwyddodd I Conner Marshall yn erchyll, ac mae’n meddyliau ni gyda’i deulu a’i ffrindiau.
"Ry ni’n gwbod ei bod hi’n gallu bod yn bryderus iawn i ddioddefwyr i weld troseddwyr yn ymddangos yn y cyfryngau heb rybudd ac rydym ni’n ymchwilio i’r cwynion gan Nadine Marshall.
"O dan y Cynllun Cyswllt â Dioddefwyr, rhoddir gwybod i ddioddefwyr am ddatblygiadau allweddol yn ymwneud â dedfryd y troseddwr.”
Mae Nadine wedi bod yn ymgyrchu i wella’r gefnogaeth i ddioddefwyr ers marwolaeth ei mab unarddeg mlynedd yn ôl, ac fe fydd y gwaith hwnnw yn parahu.