Dylid 'dileu' rôl Ysgrifennydd Cymru medd cyn-bennaeth Swyddfa Prif Weinidog Cymru
“Dwi’n meddwl dylai Swyddfa Cymru gael ei dileu, dwi wedi meddwl hynny ers rhyw ugain mlynedd,” meddai Des Clifford wrth Newyddion S4C.
“Byddwn i’n lleoli perthynas rhwng Rhif 10, Cymru, Alban, falle bod Gogledd Iwerddon ychydig yn wahanol yn y Swyddfa Cabinet yn Whitehall, e fel bod yna berthynas uniongyrchol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain.
“Fe ddylai fod yna berthynas gall, aeddfed, pa ots y blaid o safbwynt cydweithredu. Fe ddyle fod yn y sefyllfa o gydweithrediad o fewn y Deyrnas Unedig.”
Ddydd Mercher fe ddywedodd cyn-weinidog Cabinet a’r cyn-Gwnsler Cyffredinol nad oedd gan Ysgrifennydd Cymru rôl bellach.
Nodiadau mewnol
Mae’n dod ar ôl i nodiadau mewnol ddod i’r amlwg yr wythnos hon – o fis Rhagfyr y llynedd – lle'r oedd Syr Keir Starmer wedi dweud y dylai ei lywodraeth wario yng Nghymru, gan fod yn barod i fynd yn groes i ddymuniadau Llywodraethau Cymru.
Roedd y nodyn gan Downing Street wedi dod yn fuan ar ôl i sawl aelod Llafur yn y Bae ysgrifennu i’r Prif Weinidog yn ei gyhuddo o amharchu datganoli.
Roedden nhw’n honni bod gweinidogion yn cyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi mewn meysydd a fyddai fel arfer dan reolaeth Llywodraeth Cymru.
Yn benodol roedd hynny mewn ymateb i roi arian i awdurdodau lleol i adfywio canol trefi.
Roedd Eluned Morgan gerbron y Pwyllgor Craffu ar waith y Prif Weinidog olaf cyn yr etholiad. Yn ôl Eluned Morgan, fe wnaeth hi drafod y mater gyda Keir Starmer ddydd Mercher.
Dywedodd iddi ofyn i Keir Starmer “er mwyn gallu cael eglurder o’r hyn roedd e’n ei olygu”. Fe ddywedodd bod "buddsoddiad uniongyrchol yn y cenhedloedd datganoledig, dim ond mewn mannau y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol.”