Carchar am oes i ddyn am lofruddio ei gyn-wraig cyn ei chladdu mewn gardd
Mae dyn a wnaeth drywanu ei gyn-wraig i farwolaeth cyn ei chladdu mewn gardd yng Nghaerdydd wedi’i garcharu am oes.
Roedd Alireza Askari, 42 oed, wedi cyfaddef iddo ladd Paria Veisi, 37 oed, mewn tŷ yr oedden nhw wedi ei rannu gyda'i gilydd ym mis Ebrill y llynedd.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau fod Ms Veisi wedi gwahanu oddi wrth ei gŵr yn ddiweddar ac wedi symud allan o'r cartref yn gynharach y mis hwnnw.
Dywedodd William Hughes KC ar ran yr erlyniad fod Askari wedi llofruddio ei gyn-wraig cyn cael gwared o'i chorff gyda chymorth ei fodryb, Maryam Delavary.
Dydd Gwener fe wnaeth y barnwr Mrs Ustus Stacey roi dedfryd o oes yn y carchar i Askari am y “llofruddiaeth greulon”, ac fe fydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 26 mlynedd dan glo.
Wrth gyfeirio at Askari, dywedodd Mrs Stacey: “Roedd hi yn anterth ei bywyd, ac fe wnaeth ei marwolaeth ddinistrio hapusrwydd ei theulu, fel yr oeddet yn gwybod y byddai.
“Mi wnes di gam-drin Paria yn y cartref ac mi roedd hi’n dy ofni. Fe wnaeth Paria ddweud wrth ei ffrindiau am ba mor ofnus yr oedd ohonot ti.
“Mi wnes di ladd dy gyn-wraig oherwydd ei bod hi eisiau ysgariad, wedi iddi dy adael lai na phythefnos yng nghynt. Roedd dy ragrith yn syfrdanol – ar yr un pryd, roeddet ti eisiau Paria allan o’r ffordd er mwyn i ti gael cynnal perthynas gyda dy gariad yn Iran.”
Roedd Askari, o Benylan, Caerdydd, wedi pledio’n euog i lofruddiaeth ac atal claddu corff yn gyfreithlon yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau.
Cafodd honiad ychwanegol o achosi niwed corfforol hefyd ei ychwanegu.
Plediodd Maryam Delavary, 48 oed, yn euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder. Cafodd ddedfryd o bum mlynedd a chwe mis yn y carchar.
Roedd hi'n fodryb i Askari ac wedi ei helpu i guddio'r drosedd.
Mewn datganiad ar ran ei theulu, dywedodd Heliya Veysi, chwaer Paria Veisi: “Ni fydd y dyfarniad Heddiw yn dod â Paria yn ôl i ni, na chwaith y bydd yn lleddfu’r boen enfawr ar ôl ei cholli. Ond mae hyn yn gam pwysig tuag at gyfiawnder ac atebolrwydd.
“Nid oedd Paria yn ddioddefwr yn unig. Roedd hi’n ferch, chwaer a ffrind caredig, llawn bywyd yr oedd pawb yn ei charu. Fe fydd ei hatgof yn parhau yn ein calonnau am byth, a’r poen o’i cholli yn glwyf na fydd byth yn gwella.”
Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell: “Mae teulu Paria wedi cael eu hamddifadu o lawer o flynyddoedd hapus gyda Paria, ac mae’n meddyliau’n parhau gyda nhw.
“Nawr, fe fydd Alireza Askari a Maryam Delavary yn treulio cyfnod hir yn y carchar am eu troseddau. Er na fydd teulu a ffrindiau Paria byth yn ei chael hi’n ôl, rwy’n gobeithio y bydden nhw’n cael rhywfaint o gysur yn gwybod bod cyfiawnder wedi cael ei weithredu.”
Prif Lun: Alireza Askari (Heddlu De Cymru)
