Eluned Morgan wedi siarad â Keir Starmer am ei sylwadau am ddatganoli
Mae Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan wedi siarad â Syr Keir Starmer am ei sylwadau am ddatganoli sydd wedi dod i'r amlwg.
Mewn nodyn mewnol a gafodd ei anfon i gydweithwyr yn y Cabinet ym mis Rhagfyr, roedd Syr Keir wedi dweud wrthyn nhw i wrthsefyll gwrthwynebiadau gwleidyddol gan lywodraethau datganoledig.
Fe gafodd y nodyn ei ddatgelu gan Blaid Cymru ac yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth arweinydd y blaid Rhun ap Iorwerth gyhuddo Syr Keir o drin Cymru â "dirmyg".
Dywedodd y Farwnes Eluned Morgan wrth aelodau Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn y Senedd fod Syr Keir yn cyfeirio at feysydd sy'n rhan o bolisi Llywodraeth y DU, gan gynnwys materion cartref ac amddiffyn, yn hytrach na materion datganoledig fel iechyd ac addysg.
"Fe ddarllenais y memo ddydd Mawrth, ac roeddwn i'n gallu siarad â'r Prif Weinidog ddydd Mercher i gael eglurder ar beth yr oedd yn ei olygu yn y llythyr," meddai.
Ychwanegodd y Farwnes Morgan fod y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi "gwella yn sylweddol".
"Y broblem i ni yn y gorffennol oedd fod rhan o'r broblem yn ymwneud â'r ffaith nad oedden nhw wedi gwneud digon yn ein gwlad pan oedd y Torïaid mewn grym."
Gofynnwyd i'r Prif Weinidog os oedd y nodyn yn dangos fod materion rhwng llywodraethau ar hyn o bryd "o dan straen".
Ymatebodd Eluned Morgan drwy ddweud: "Mae'r ffaith fy mod i'n gallu codi'r ffôn yn dangos fod y berthynas mewn lle gwahnaol iawn i lle'r oedd hi am 14 mlynedd o dan y Ceidwadwyr."
Wrth ymateb i sylwadau Eluned Morgan, dywedodd Llyr Gruffydd AS o Blaid Cymru:
“Mae’n rhaid bod y Prif Weinidog wedi darllen nodyn yn gwbl wahanol i bawb arall. Does dim amheuaeth bod nodyn Prif Weinidog y DU wedi rhoi cyfarwyddyd clir i’w Aelodau Cabinet i ochrgamu Llywodraeth Cymru a llywodraethau datganoledig eraill i wario’n uniongyrchol, hyd yn oed pan fod anghytundeb.
“Mae hwn yn esiampl arall o’r Llywodraeth Lafur Cymru yma yn rhoi eu plaid cyn eu gwlad. Pan roddir y cyfle iddynt sefyll i fyny dros Gymru, byddant yn sefyll cornel Starmer bob un tro."
