
Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn: Dysgu’r Gymraeg yn ‘rhan o hunaniaeth’
Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn: Dysgu’r Gymraeg yn ‘rhan o hunaniaeth’
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enw’r pedwar sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2023.
Y rhai a ddaeth i’r brig yw Alison Cairns o Lannerchymedd, Roland Davies o Lanidloes, Manuela Niemetscheck o Fethesda a Tom Trevarthen o Aberystwyth.
Yn ystod yr wythnos mae Newyddion S4C yn cwrdd â’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.
Wedi i Newyddion S4C siarad â Tom Trevarthen, Alison Cairns a Roland Davies yn gynharach yr wythnos, tro Manuela Niemetscheck yw hi i gael el ei holi.
Yn wreiddiol o Ganada, mae Manuela Niemetscheck yn medru siarad pump o ieithoedd.
Ond wedi iddi symud i Fethesda gyda’i theulu, mae Ms Niemetscheck pellach wedi penderfynu byw ei bywyd yn Gymraeg.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd: “Y rhieni fi yn siarad Almaeneg ac Almaeneg y Swistir fel ieithoedd cynta’ nhw ond maen nhw ddim ‘di dysgu ni fel plant yr ieithoedd nhw.
“Ond mae’n rhan o hunaniaeth.
“Dwi ddim ‘di guessio dwi ‘di jyst gwybod yn naturiol, wrth gwrs mae fy mhlant i mynd i siarad Gymraeg ac byw yn y cymuned sy’n siarad Cymraeg, wrth gwrs dwi mynd i byw fy mywyd yn Cymraeg.”
Teimlo teimladau ‘gwahanol’ yn y Gymraeg
Ar ôl cwrdd â’i chymar yng Nghatalonia, fe symudodd Ms Niemetscheck i ogledd Cymru er mwyn cychwyn ar “antur arall.”
Yn fam bellach i ddau o blant, mae hi hefyd yn siarad Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg a Chatalaneg.
Fel Seicotherapydd Celf yn Ysbyty Gwynedd, fe benderfynodd ddysgu’r Gymraeg er mwyn sicrhau darpariaeth “hollbwysig” o’r iaith o fewn gwasanaethau iechyd meddwl.
“Dwi’n credu bod e’n mor pwysig bod siaradwyr Cymraeg gallu cael gwasanaeth yn yr iaith cynta’ nhw.

“Mae creu perthynas yn rhan mor pwysig yn fy rôl fi, ac sylwi, ac parchu y diwylliant ac yr iaith y pobl dwi’n gweithio efo yn mor pwysig, mae’n rhan o creu perthynas.
“’Dyn ni’n gallu teimlo teimladau ni’n wahanol mewn ieithoedd wahanol ac hyd yn oed pan dwi isho rhedeg grŵp gyda cymysgiad o ieithoedd – dwi dal yn isho cael o’n dwyieithog oherwydd mae’n pwysig i hunaniaeth,” ychwanegodd.
Fe ddysgodd hi’r Gymraeg drwy gwrs Wlpan a mynd i Nant Gwrtheyrn a bu’n cyfrannu i ddarpariaeth gwasanaethau Cymraeg yn Uned Hergest.
Bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2023 yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Mercher 9 Awst.
Fe fydd enillydd y gystadleuaeth yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a £300 tra bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un, gyda’r arian i gyd yn cael ei ddarparu gan Gyngor Tref Pwllheli.