Trafod iechyd meddwl ar ôl ennill gwobr Eisteddfod wedi 'cyffwrdd efo gymaint o bobol'
Trafod iechyd meddwl ar ôl ennill gwobr Eisteddfod wedi 'cyffwrdd efo gymaint o bobol'
“Mae'n golygu gymaint i fi wan pan 'ma pobl yn bod mor agored efo fi.”
Flwyddyn ar ôl ennill y Fedal Ryddiaith mae Sioned Erin Hughes yn falch ei bod hi wedi siarad mor agored am ei hiechyd meddwl.
Mewn cyfweliad deledu ar ôl y seremoni'r llynedd, dywedodd Sioned Erin Hughes ei bod hi wedi dioddef cyfnodau "cwbl, cwbl anobeithiol".
Ond wrth siarad gyda Newyddion S4C yn yr Eisteddfod eleni dywedodd fod y sgwrs honno wedi bod yn sbardun i bobl eraill drafod eu hiechyd meddwl eu hunain gyda hi.
Roedd hi yn y Babell Lên ddydd Sul i drafod ei chyfrol fuddugol ‘Rhyngom’ sydd bellach wedi cael ei droi yn addasiad llwyfan gan Theatr Genedlaethol Cymru.
“Flwyddyn yn ôl i rŵan deud gwir, neshi agor allan a deud bo' fi wedi trio hunanleiddio dwy flynadd yn ôl,” meddai wrth Newyddion S4C.
“A dwi'n meddwl bod jesd deud hynna ar goedd, bod hynna wedi cyffwrdd efo gymaint o bobol achos mae o wastad yn rhywbeth hush hush a dwi'm yn meddwl ddyla fo fod fela.
“Dwi'n meddwl ma' ffordd i fynd ar ei ôl o ydy siarad lot mwy amdana fo.
“Felly ma' lot o hynna wedi digwydd dros y flwyddyn ac mae o'n golygu gymaint i fi wan pan ma' pobl yn bod mor agored efo fi.
“Ma hynny'n dangos bod siarad allan wedi helpu.”
‘Cynnal iechyd meddwl’
Daeth yr awdur ifanc o Foduan – cartref yr Eisteddfod eleni - i'r brig y llynedd mewn cystadleuaeth a ddenodd 17 o ymgeiswyr.
Wrth siarad yn sgil ei buddugoliaeth yn Nhregaron dywedodd ei bod hi wedi ceisio cymryd ei bywyd ei hun tua 18 mis cyn hynny.
"O'n i'n meddwl y byswn i mewn 'sbyty meddwl am weddill fy mywyd - a heddiw dwi'n fa'ma yn brif lenor. Na'i byth arfar efo d'eud hynny," meddai.
Wrth siarad ar faes yr Eisteddfod ddydd Sul dywedodd ei bod hi wedi gallu defnyddio ei chrefft am eiriau i drafod ei phrofiad.
“Dwi'n teimlo mae o'n fwy o bod fi'n roid sylw ar yn llesiant meddyliol yn hytrach na 'yn heriau iechyd meddwl,” meddai.
“Felly dwi'n siarad lot mwy am natur, 'da chi'n gwybod, fy nheulu, fy nghariad i, bob dim felly, bob dim sydd wedi 'nghynnal i fwy, felly ma' 'na ddwy ochor iddi.
“Ma' gynna chi'r ochr siarad am iechyd meddwl sydd mor bwysig, ond, siarad am y pethau sy'n cynnal iechyd meddwl hefyd.
“Felly, dwi rhyw fath o 'di cael y ddau beth yn un y flwyddyn yma, ac ia a ma 'di bod yn wych. Do.”