Meysydd awyr gan gynnwys Caerdydd wedi codi ffioedd am ollwng teithwyr
Mae dros hanner meysydd awyr y DU gan gynnwys Caerdydd wedi codi ffioedd ar gyfer gollwng teithwyr wrth ddrws blaen eu terfynfeydd dros y flwyddyn ddiwethaf yn ôl ymchwil newydd.
Doedd gan Faes Awyr Caerdydd ddim ffi o gwbl ond maen nhw bellach yn codi £3 am ollwng teithwyr wrth ddrws ffrynt eu terfynfa (terminal).
Roedd 11 o’r 20 maes awyr mwyaf yn y DU wedi codi ffioedd ar gyfer gollwng teithwyr wrth eu terfynfeydd dros y flwyddyn ddiwethaf meddai’r RAC.
Yn y cyfamser doedd dim ffi o gwbl am ollwng teithwyr wrth wyth o’r 10 maes awyr prysuraf yn yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys Paris Charles de Gaulle, Frankfurt a Madrid .
Dywedodd uwch swyddog polisi’r RAC, Rod Dennis, ei fod wedi ei “ddigalonni” gan y cynnydd mewn ffioedd ym meysydd awyr y DU.
“Mae’n ymddangos nad yw’r awyr yn unrhyw derfyn ar y prisiau y mae’n rhaid i yrwyr eu talu i adael ffrindiau neu anwyliaid y tu allan i faes awyr,” meddai.
'Osgoi tagfeydd'
Y naw maes awyr a gododd eu ffioedd £1 oedd Belfast, Birmingham, Bryste, Caeredin, Gatwick, Heathrow, John Lennon yn Lerpwl, Newcastle a Southampton.
Ychwanegodd Leeds Bradford a Glasgow 50c at eu ffioedd nhw.
Doedd gan Luton ddim ardal gollwng teithwyr yr haf diwethaf oherwydd tân mewn maes parcio, ond maen nhw bellach yn codi £5.
Dinas Llundain oedd yr unig faes awyr yn y DU a oedd yn ôl dadansoddiad yr RAC yn caniatáu gollwng teithwyr am ddim y tu allan i'w terfynfa.
Dywedodd Karen Dee, prif weithredwr y corff sy’n cynrychioli meysydd awyr AirportsUK, bod y ffioedd yn lleihau traffig.
“Mae gan bob maes awyr gyfleusterau gollwng teithwyr am ddim,” meddai, gan ychwanegu mai dewis “premiwm” oedd y gallu i ollwng teithwyr o flaen drws blaen terfynell.
“Lle codir ffioedd, mae hyn yn helpu meysydd awyr i reoli a lleihau tagfeydd, sŵn, allyriadau carbon a llygredd aer ar gyfer cymunedau lleol, rhywbeth y mae’r Llywodraeth ac awdurdodau lleol wedi’u gorchymyn iddyn nhw ei wneud.
“Mae’r ffioedd hyn yn rhan o fodel busnes y maes awyr ac yn helpu i alluogi darparu’r amrywiaeth ehangaf o hediadau o’r maes awyr.”