'Y flwyddyn brysuraf' ar gofnod i un criw o Wylwyr y Glannau yn ne Cymru

ITV Cymru
Llun: Gwylwyr y Glannau Port Talbot
Gwylwyr y Glannau Port Talbot

Mae criw o wylwyr y glannau yn ne Cymru wedi dweud mai hon yw'r flwyddyn brysuraf ar gofnod iddyn nhw.

Cafodd Gwylwyr y Glannau Port Talbot eu galw allan ddydd Gwener yn dilyn adroddiadau bod padlfyrddiwr mewn trafferthion oddi ar Bwynt Newton ger Porthcawl.

Dywedodd y tîm fod y digwyddiad yn nodi’r nifer fwyaf o alwadau ar gofnod iddyn nhw eleni.

Roedd y padlfyrddiwr wedi ei wthio i ffwrdd o’r lan, a cheisiodd caiaciwr gerllaw gynorthwyo.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau Port Talbot: "Gweithredodd aelod o'r cyhoedd yn briodol drwy ffonio 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau. Tra ar y ffordd, cawsom gadarnhad bod y padlfyrddiwr wedi cyrraedd yn ôl i'r lan yn ddiogel heb fod angen unrhyw ofal.

"Mae'r digwyddiad hwn yn ystod yr hyn sydd bellach yn swyddogol yn flwyddyn brysuraf ar gofnod i Wylwyr y Glannau Port Talbot."

Daw ar ôl "digwyddiad mawr" penwythnos diwethaf pan achubwyd chwech o blant gan y criw ar ôl iddynt fynd i drafferthion yn y môr.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau Port Talbot bod aelodau o'r criw wedi mynd i'r môr "heb oedi i gynorthwyo'r rhai oedd yn y dŵr, gan lwyddo i ddod â phawb yn ôl i'r traeth yn ddiogel."

Dywedodd y criw mai'r digwyddiad hwnnw oedd eu trydydd achubiaeth dŵr eleni, gyda naw bywyd wedi'u hachub hyd yn hyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.