Elfyn Evans yn gorffen Rali Paraguay yn yr ail safle
Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi gorffen yn yr ail safle ar Rali Paraguay.
Roedd Evans yn y trydydd safle yn dilyn 15 o gymalau’r rali ar ddiwedd dydd Sadwrn ar ôl bod yn y pumed safle yn dilyn wyth o gymalau agoriadol y rali ddydd Gwener.
Fe gwympodd yn ôl i’r pedwerydd safle ar ôl methu cornel a cholli amser ar gymal 16.
Ond fe gododd eto i’r trydydd safle ar gymal 18, sef yr olaf ond un, pan gafodd Ott Tanak o Estonia bynctiar.
Cafodd gymal olaf arbennig o dda gan esgyn i’r ail safle, tu ôl i’r enillydd Sébastien Ogier o Ffrainc.
Mae hyn yn golygu fod Evans yn dal ei afael ar frig Pencampwriaeth y Byd yn dilyn deg rali gyda phedair i fynd.
Fe orffennodd Evans yn ail ym Mhencampwriaeth y Byd y llynedd ar ôl iddo ennill rali ola’r tymor yn Japan ym mis Tachwedd.
Fe fydd y rali nesaf yn Chile ymhen pythefnos.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1962202335779627201