Eric Ramsay: Y Cymro Cymraeg sydd wedi trechu Messi

Eric Ramsay: Y Cymro Cymraeg sydd wedi trechu Messi

O arwain ei dîm i fuddugoliaeth dros tîm Lionel Messi, i ddysgu'r Gymraeg gyda'i blant ifanc, roedd 2025 yn flwyddyn i'w chofio i'r hyfforddwr pêl-droed o Bowys, Eric Ramsay. 

Ar ôl gweithio fel is-hyfforddwr gyda Manchester United a thîm Cymru, cafodd Ramsay, sy'n 34 oed ac o Lanfyllin, ei benodi’n brif hyfforddwr ar Minnesota United yn Chwefror 2024.

Pan gafodd ei benodi i'r rôl yn 32 oed, ef oedd y prif hyfforddwr ieuengaf erioed ar dîm yn hanes prif gynghrair America, ac mae’r ddau dymor y mae wedi bod wrth yn llyw wedi bod yn rhai llwyddiannus i’w dîm.

Image
Eric Man U
Roedd Eric Ramsay yn is-hyffoddwr gyda Manchester United dan Ole Gunnar Solskjaer, Ralf Rangnick ac Erik ten Hag (Llun: Reuters)

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Ramsay, sydd yn dad i ddau o blant ifanc: “Mae o wedi bod yn brofiad anhygoel i fi ac i’r teulu. Mae cael y cyfle i deithio drwy America fel teulu, bod mewn dinasoedd gwahanol bob yn ail wythnos, dyna’r classic American adventure mewn ffordd.

“O’r rhan chwaraeon, mae o wedi bod cystal a fyswn i wedi gobeithio. Dim yn berffaith, does dim trophy, ond mi ydan ni wedi bod yn competitive iawn dros ddwy flynedd.

“O fy safbwynt i, mae cymryd fy camau cyntaf fel prif hyfforddwr, dwi’n gwybod fy mod i wedi tyfu lot dros y ddwy flynedd.”

Curo tîm Messi yn 'freuddwyd'

Cafodd y tîm eu tymor gorau erioed eleni, gan lwyddo i gyrraedd wyth olaf y Cwpan MLS am yr ail dymor yn olynol. 

Un o uchafbwyntiau’r ymgyrch, yn ôl Ramsay, oedd buddugoliaeth 4-1 dros Inter Miami – sef tîm Lionel Messi.

“Da ni efo stadiwm gwych, 20,000 o bobl ac mae’n sell-out bob wythnos. Oedd pawb yn gobeithio am ganlyniad da. Ond y ffordd aeth popeth, mi oedd o’n berfformiad cryf iawn.

Image
Messi
Colli o 4-1 oedd hanes Lionel Messi a'i dîm, Inter Miami, yn erbyn Minnesota United fis Mai (Llun: Reuters)

“Mi wnaeth o [Messi] sgorio yn y gêm yna, ond enillon ni 4-1 felly roedd y combination o fo’n cael ei foment, a ni’n ennill, roedd pawb yn hapus. Roedd o’n dipyn o freuddwyd. Un o’r gemau gorau, for sure - profiad arbennig.”

Oddi ar y cae, mae Ramsay wedi bod yn brysur yn treulio amser yn dysgu’r Gymraeg, gyda help ei wraig, Sioned. 

Mae’n dweud mai helpu ei blant, Jac, sy'n bedair, a Lili, sy'n ddwy, i ddysgu Cymraeg oedd un o’r rhesymau dros ddysgu’r iaith ei hun.

“Mae’n pwysig iawn i teulu ni rŵan hefo plant ni,” meddai. “Mae’n pwysig iawn i teulu Sioned. Dwi eisiau chwarae part fi’n helpu nhw dysgu.

“A hefyd mae just yn peth diddorol i fi wneud. Dwi di tyfu i fyny yn Cymru heb dysgu lot o Cymraeg a rŵan dwi’n teimlo'r pwysau i neud o a just strangely bod yn America, wedi bod y dechrau cymryd o dipyn bach fwy seriously ac mae Sioned wedi helpu ni lot.”

Ychwanegodd Sioned, sydd yn wreiddiol o Ynys Môn: “Dwi’n meddwl mae’n haws i ni yn America na pan oeddan ni yma, am ryw reswm. 

Image
Eric
Roedd Eric Ramsay (dde) yn is-hyfforddwr i Gymru dan Rob Page

“Pan oeddan ni’n ym Manceinion cynt, oeddan ni’n meddwl ‘oh wel, fydd Mam a Dad adra, neith nhw ddod i weld y plant,’ a kind of disgwl i bawb arall helpu. 

"Lle yn America, dwi’n meddwl mae 'na fwy o bwysau arna ni’n fana i neud o i weithio, so dyna oedd y rhan fwya’ ohono fo. 

"Da ni di neud o’n un o’r pethau mwya’ da ni’n neud adra, trio cadw fo i’r tŷ, yn y car a siarad cyn gymaint â dani’n gallu rili."

Mwynhau Fleur de Lys a Bwncath

Gyda’r holl deithio i gemau mewn dinasoedd yn hanner orllewinol America, mae Eric wedi canfod sawl ffordd o helpu gyda’i daith ddysgu.

Image
Fleur de Lys
Mae gwrando ar bandiau fel Fleur de Lys wedi helpu Eric i ddysgu Cymraeg, meddai

“Dwi’n siarad Sbaeneg a Ffrangeg a dwi efo proses clir o just cario ymlaen heb lot o help – podcasts, series teledu. Does 'na ddim yr un lefel o content available yn Cymraeg ond ma na cwpwl o footbal podcasts yn Cymraeg dwi’n gwrando hefo Sioned. 

“Da ni wedi ffeindio Fleur de Lys, Bwncath, da ni’n gwrando arnyn nhw hefo’r plant bora dydd Sul ar ôl chwara gêms ac mae’r plant yn caru nhw hefyd, so mae’n rhan neis o bywyd ni.

“Dwi’n watchad Rownd a Rownd a trio darllen dipyn bach. Ond y gwahaniaeth oedd just cael yr hyder i siarad efo Sioned i gymryd yn y tŷ.

“Dwi’n used to gwneud camgymeriadau efo ieithoedd eraill ond dwi’n gyfforddus efo hwnna a dwi’n meddwl bod hwnna ydi’r cam gyntaf i gael yr hyder i siarad.”

Image
Eric a'r teulu
Eric gyda'i wraig, Sioned, a'u plant, Lili a Jac

Gyda Chymru yn gobeithio cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2026 yn America, Canada a Mecsico, pa mor obeithiol yw Ramsay o weld ei gyd-Gymry yntau’n gwneud y daith dros yr Iwerydd?

“Maen nhw di bod yn dda iawn a diddorol iawn i wylio, ac roedden nhw’n agos i qualifyio o’r grŵp. 

“Dwi’n siŵr hefo’r gemau sydd i ddod, yn enwedig gan bod nhw’n gemau gartref, fydd na lot o obaith ag ychydig o expectation hefyd. 

"Dwi’n edrych ymlaen i wylio nhw’n fawr, os alla’i. Mae’n teimlo fel bod y tîm mewn lle da iawn ac mae popeth yn edrych yn bositif.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.