Pa addewidion sydd yn rhaglen lywodraethu newydd Llywodraeth Cymru?

Rhun ap Iorwerth

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Rhaglen Lywodraethu newydd ddydd Llun, sy’n nodi ei blaenoriaethau a’i chynlluniau ar gyfer tymor pedair blynedd y Senedd.

Wrth ei lansio, dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, mai’r nod fydd “adeiladu ar y cynnydd” a welwyd yn ystod y 100 diwrnod cyntaf wrth y llyw.

Felly beth sy’n cael ei addo yn y ddogfen, a beth sy’n wahanol i’r maniffesto a gyflwynwyd gan Blaid Cymru cyn yr etholiad?

Yr hyn sy’n amlwg yw bod nifer o’r addewidion mwyaf a wnaed cyn yr etholiad yn dal i fod yn y rhaglen.

Mae’r llywodraeth yn parhau i addo ei chynnig gofal plant newydd, oedd yn un o gonglfeini ymgyrch etholiadol Plaid Cymru.

Mae’n addo cyflwyno’r cynnig yn raddol, gan adeiladu at ariannu 20 awr o ofal plant yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn i blant rhwng naw mis a phedair oed.

Bydd y cynnig 30 awr presennol ar gyfer plant tair a phedair oed cymwys yn parhau.

Nid oes amserlen fanwl na chost y cynnig yn y ddogfen. Mae’n addo gweithio gyda darparwyr i gynyddu capasiti a’r gweithlu, ond heb nodi’n fanwl sut.

Mae’r llywodraeth hefyd yn addo cinio ysgol am ddim i ddisgyblion uwchradd o bob cartref sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, waeth beth fo’r incwm.

Mae’r ymrwymiad cychwynnol yn cynnwys Blynyddoedd 7–11, gan ddileu’r terfyn incwm ar gyfer cartrefi sy’n hawlio Credyd Cynhwysol.

Addewid amlwg arall sy’n goroesi o’r maniffesto yw gofyn yn ffurfiol am ddatganoli’r hawl i benderfynu ar yr amserlen, y cwestiwn a’r broses ar gyfer refferendwm annibyniaeth.

Serch hynny, nid yw’r rhaglen yn pennu dyddiad ar gyfer refferendwm nac yn ymrwymo i gynnal un yn ystod y tymor presennol.

Image
Rhun ap Iorwerth
Rhun ap Iorwerth yn ystod yr ymgyrch etholiadol

Oes yna addewidion wedi newid?

Roedd maniffesto Plaid Cymru yn addo y byddai cymhellion hyfforddi athrawon ar gyfer pynciau blaenoriaeth yng Nghymru yn cyfateb i’r rhai yn Lloegr erbyn 2030.

Roedd hynny’n golygu y byddai “hyd at £30,000 ar gael ar gyfer y pynciau sydd â’r flaenoriaeth uchaf – dwbl y £15,000 presennol,” meddai’r maniffesto.

Nid yw’r ymrwymiad penodol hwnnw’n cael ei ailadrodd yn y Rhaglen Lywodraethu.

Yn hytrach, mae’n dweud bod y llywodraeth eisoes wedi codi’r ffigwr i £20,000 i helpu i ddenu mwy o athrawon i bynciau lle mae prinder.

Nid yw’r ffigwr o £30,000 na’r dyddiad 2030 yn cael eu hailadrodd. Yn eu lle, mae bwriad i “archwilio cyfleoedd i gynyddu hyn ymhellach”.

Mae addewid i “ddarparu 10 hwb llawfeddygol newydd” wedi troi’n addewid i sefydlu “hyd at” 10 hwb llawfeddygol ledled Cymru.

Roedd y maniffesto hefyd yn addo deddfu i gyflwyno mesurau diogelu newydd ar gyfer ardaloedd o ddwysedd ieithyddol uwch, a “deddfu i warchod enwau lleoedd Cymru”.

Nid yw’r rhaglen yn ailadrodd yr ymrwymiadau penodol i ddeddfu.

Yn hytrach, mae’n cyfeirio at “ddynodi ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol uwch a diogelu enwau lleoedd Cymraeg” fel nodau i weithio tuag atynt.

Image
Plaid Cymru ar risiau'r Senedd
Plaid Cymru yn dathlu buddugoliaeth ar risiau'r Senedd

Oes unrhyw beth oedd yn y maniffesto sydd ddim yn amlwg yma?

Mae Rhaglen Lywodraethu’r llywodraeth tua hanner hyd maniffesto Plaid Cymru, ac nid yw rhai addewidion amlwg yn cael eu hailadrodd ynddi.

Un enghraifft yw’r addewid i geisio sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol dros newid system bleidleisio’r Senedd.

Roedd y maniffesto yn addo “gweithio i greu mwyafrif trawsbleidiol ar gyfer mabwysiadu’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau’r Senedd yn y dyfodol”.

Nid yw’r addewid honno’n cael ei hailadrodd yn y Rhaglen Lywodraethu.

Roedd y maniffesto hefyd yn cynnwys targed i o leiaf hanner y disgyblion gael addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.

Roedd yn addo “cyflwyno targed o gael o leiaf 50% o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050”.

Nid yw’r targed cenedlaethol hwnnw’n ymddangos yn y Rhaglen Lywodraethu.

Yn hytrach, mae’n addo “cynyddu cyfran y plant a’r bobl ifanc sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg a gwella mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg”.

Mae hefyd yn addo “gosod targedau lleol i sicrhau twf cyson y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob ysgol”.

Un arall o addewidion amlycaf y maniffesto oedd sicrhau, erbyn 2030, “y bydd gan bob ysgol gynradd yng Nghymru lyfrgell bwrpasol”.

Nid yw’r addewid hwnnw wedi’i ailadrodd yma, ond mae’r ymrwymiad yn parhau yn y Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol.

Cafodd y cynllun hwnnw ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar 15 Medi, ac mae’n addo darparu ardal llyfrgell ym mhob ysgol gynradd erbyn 2030.

Felly, nid yw absenoldeb addewid o’r Rhaglen Lywodraethu ynddo’i hun yn brawf bod y llywodraeth wedi cefnu arno.

Beth mae’r llywodraeth yn ei ddweud?

Mae cyflwyniad y rhaglen yn ei disgrifio fel “glasbrint ar gyfer newid” i wireddu gweledigaeth o genedl “fodern, ffyniannus, uchelgeisiol a hyderus”.

Yn ei ragair, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Am gyfnod rhy hir, mae gweithio ar wahân neu’n ynysig wedi rhwystro cynnydd. Mae’r llywodraeth newydd hon yn mynd ati mewn ffordd wahanol.

“Drwy ddefnyddio dychymyg ac arloesedd wrth wneud penderfyniadau a phennu blaenoriaethau, byddwn yn gweithio ar draws adrannau’r llywodraeth – nid oddi mewn iddynt yn unig – i fynd i’r afael â’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein cymdeithas heddiw.”

Dywedodd mai’r ffocws nawr yw troi gweithredu cynnar yn ganlyniadau parhaol drwy leihau rhestrau aros a sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i’r Gwasanaeth Iechyd.

Nododd hefyd helpu teuluoedd â chostau byw, creu swyddi da, codi safonau mewn ysgolion, mynd i’r afael â thlodi plant a sefyll dros Gymru.

“Byddwn yn ddigyfaddawd wrth sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan,” meddai.

Ychwanegodd fod hynny’n golygu dadlau dros rymuso’r Senedd â’r adnoddau i allu bod yn fwy beiddgar a radical wrth wella bywydau pobl.

“Cawsom ein hethol i symud Cymru yn ei blaen ar ôl blynyddoedd o ddiffyg cyfeiriad a diffyg twf. Dyna yw ein cenhadaeth o hyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.