Presley Gerber, mab Cindy Crawford, wedi marw'n 27 oed

Presley Gerber

Mae Presley Gerber, mab y model Cindy Crawford, wedi marw yn 27 oed.

Yn ôl cofnodion a gyflwynwyd gan Swyddfa Archwiliwr Meddygol Sir Los Angeles, fe fuodd Mr Gerber farw mewn canolfan adsefydlu ('rehabilitation') ddydd Sul. 

Roedd Presley Gerber hefyd yn fodel, ac fe ddechreuodd ei yrfa pan ymddangosodd mewn sioe ffasiwn am y tro cyntaf i’r cwmni Eidalaidd Moschino yn 16 oed.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fe siaradodd yn agored am ei heriau gyda’i iechyd meddwl a chyffuriau.

Yn 2023, dywedodd ar y podlediad Studio 22 ei fod eisiau bod yn agored am ei fywyd er mwyn helpu eraill.

“Ar ôl cael trafferth gyda fy iechyd meddwl, iselder a rhai pethau eraill sy’n dod law yn llaw â hynny, dwi’n meddwl, os ydw i’n helpu un person neu gant o bobl i ddod allan o’r sefyllfa roeddwn i ynddi ar un adeg yn fy mywyd, dyna’r cyfan sydd angen i mi ei wneud,” meddai.

Yn fwy diweddar, fe wnaeth ei chwaer, Kaia, drafod brwydr ei brawd â dibyniaeth.

Dywedodd y mis hwn mewn cyfweliad â chylchgrawn American Vogue: “Pan mae rhywbeth fel ’na’n digwydd mewn teulu, mae o rywsut yn effeithio ar bawb.”

Mae cynrychiolydd ar ran y teulu wedi dweud wrth CBS News yn yr Unol Daleithiau fod y “teulu’n gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd a phoenus iawn hwn.”

Llun: Presley Gerber, cyfrif Instagram 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.