Rhybudd am ddiffyg adnoddau i ddisgyblion astudio cymwysterau newydd
Rhybudd am ddiffyg adnoddau i ddisgyblion astudio cymwysterau newydd
Mae athrawon yn rhybuddio y gallai disgyblion mewn rhai ysgolion yng Nghymru golli'r cyfle i astudio cymwysterau galwedigaethol newydd oherwydd diffyg adnoddau, staff ac arian.
Bydd cymwysterau Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU) newydd mewn 15 pwnc yn cael eu cyflwyno o fis Medi 2027. Y nod yw rhoi cyflwyniad i fyd gwaith i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed.
Ond mae Rhys Richardson, pennaeth cynorthwyol Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ac un o awduron un o’r cymwysterau newydd, yn rhybuddio y gallai’r ddarpariaeth amrywio. Gallai ddod yn “loteri cod post”, meddai, gan ddibynnu ar adnoddau pob ysgol.
Mae tri o’r cymwysterau yn peri pryder penodol i Mr Richardson, sef Cynnal a Chadw Cerbydau Modur; Gwallt a Harddwch; a Chynhyrchu Creadigol a’r Cyfryngau, a Thechnoleg.
"Mae 15 cwrs newydd yn cychwyn ymhen blwyddyn, ac ar hap a damwain falle, falle bydd y gallu gyda'r ysgolion gynnig y cyrsiau gyda'r staffio, profiadau staff er mwyn cynnal y gwersi a'r adnoddau angenrheidiol sydd gyda nhw yn barod," meddai wrth Newyddion S4C.
"Os na, falle ni fydd y pynciau yma'n rhedeg o gwbl.
"Mae e'n postcode lottery, yn enwedig ar gyfer ysgolion difreintiedig gyda'r gwasgedd a'r pwysau ariannol sydd ar yr ysgolion ar hyn o bryd."
Mae'r pennaeth cynorthwyol wedi bod yn rhan o'r gwaith o lunio cymhwyster Cynhyrchu Creadigol a’r Cyfryngau, a Thechnoleg. Mae ei ysgol eisoes wedi buddsoddi mewn offer ar gyfer cyrsiau tebyg.
Ar ben y cyfarpar sydd gan yr ysgol yn barod, mae’n amcangyfrif bod angen gwario tua £6,000 yn rhagor ar offer er mwyn darparu’r cwrs yn gywir.
"Mae angen camerâu, goleuadau, meicroffons, seinyddion, clustffonau a chyfrifiaduron uchel spec ar gyfer golygu'r fideos yn y pendraw er mwyn i ni wir wireddu teledu a ffilm fel llinyn gyda'r cynyrchiadau gan y dysgwyr," meddai.
"Ni'n lwcus dros y blynyddoedd diwetha', pum mlynedd diwetha', ni wedi bod yn rhedeg cwrs Lefel Tri (blwyddyn 12 a 13) yn yr un maes ac mae cryn dipyn o adnoddau gyda ni.
"Ond i ysgolion eraill fydd yn cychwyn ar gwrs newydd wedyn yn 2027, maen nhw'n cychwyn o ddim byd."
Ychwanegodd ei fod yn poeni'n benodol am ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig, sydd eisoes yn wynebu pwysau ariannol.
"Mae e'n dristwch am fod dysgwyr yn colli allan os nad yw'r pynciau'n rhedeg gan fod prinder adnoddau gyda nhw neu brinder staff gyda'r capacity i addysgu'r cyrsiau yma."
'Cymwysterau'n barod, ystafelloedd dosbarth ddim'
Mae Mr Richardson yn galw ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ystyried a oes modd darparu arian ychwanegol i ysgolion.
"Dylai Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol fod yn edrych i mewn i weld os oes yna gyllid ar gael ar gyfer ysgolion er mwyn rhedeg y cyrsiau yma," meddai.
"Mae'r cymwysterau'n barod, ond dydy'r ystafelloedd dosbarth ddim."
Dywedodd y byddai'n "siom enfawr" pe bai ysgolion yn methu â hyfforddi pobl ifanc mewn meysydd galwedigaethol oherwydd diffyg adnoddau.
"Mae angen i ni gael yr ysgol yma, sydd yn un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y wlad, i gael y cymwysterau yma.
"A mwy na hynny, mae ardaloedd mwy difreintiedig sydd angen y cyrsiau yma er mwyn caniatáu i'w dysgwyr nhw gael swyddi sydd allan yna ar hyn o bryd a swyddi fydd yn dod yn y dyfodol hefyd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae Tystysgrifau Galwedigaethol Addysg Uwchradd wedi’u dylunio i’w darparu mewn ysgolion â’r cyfleusterau eisoes ar gael iddynt. Maent wedi’u datblygu gan gyrff dyfarnu a fydd yn darparu deunyddiau dysgu proffesiynol.
"Dylai pob ysgol benderfynu pa Dystysgrifau Galwedigaethol Addysg Uwchradd y maent yn eu cynnig, ar sail yr adnoddau, y cyfleusterau a’r arbenigedd staff sydd ganddynt.”
'Byth yn cael y cyfarpar'
Mae pryderon tebyg gan Thomas Rose, sy’n addysgu Technoleg Ddigidol yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl.
Dywedodd fod y cymwysterau newydd yn cynnig cyfleoedd “cyffrous iawn” i ddisgyblion a staff. Ond yr her fwyaf, meddai, yw sicrhau bod offer yr ysgolion yn cyfateb i safonau’r diwydiannau dan sylw.
Mae ei ysgol ef wedi buddsoddi mewn offer dros y pum mlynedd diwethaf, ond mae'n dweud bod offer o safon uwch yn gallu bod yn ddrud iawn.
"Fi'n ddigon ffodus bod yr ysgol wedi buddsoddi arian mewn i'r cyrsiau dros y blynyddoedd o ran budget adrannol," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ond fi'n ymwybodol bod y kit o'r safon nesaf yn costio gormodedd. I'r pwynt, fi ddim yn credu fydda i byth yn cael y kit 'na."
Ychwanegodd fod y cymwysterau creadigol yn gallu cynnwys meysydd fel dylunio gemau, ffilm a theledu ac e-chwaraeon, sy'n golygu bod angen ystod eang o dechnoleg.
"Mae dim fel jyst prynu kit am un cwrs. Mae angen fi brynu kit am dri chwrs tu fewn i un cwrs."
Mae'n amcangyfrif bod dros £10,000 wedi'i wario ar offer dros y blynyddoedd diwethaf yn ei adran, ond dywedodd y gallai'r gost o brynu adnoddau sy'n adlewyrchu'r diwydiant fod yn llawer uwch.
"Popeth ni'n neud yw, mewn ffordd, quick fixes am broblemau mawr," meddai.
"Fi'n credu'n gryf bod 'na sefyllfaoedd ble bydd nifer o ysgolion byth yn rhedeg y cyrsiau 'ma, a bydd y plant byth yn cael y profiadau sydd angen am y byd go iawn.
"Mae'r cyrsiau yma'n edrych yn wych ac mae fel rhyw fath o tease i'r disgyblion, a wedyn does dim siawns iddyn nhw gael y cyfle i wneud y cwrs mewn ffordd.
"Mae fel hysbysebu rhywbeth ond does dim modd iddyn nhw gael e."
'Adnoddau rhesymol'
Dywedodd Cymwysterau Cymru fod y cyrsiau TAAU wedi'u cynllunio i roi "cyflwyniad eang" i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed i wahanol feysydd sy'n gysylltiedig â gwaith.
Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, athrawon, disgyblion, cyrff dyfarnu a rhanddeiliaid eraill wrth ddatblygu’r 15 cwrs.
"Roedd ein hargymhellion yn cynnwys y gofyniad y dylai'r cymwysterau TAAU newydd fod yn bosibl i'w darparu o fewn yr adnoddau rhesymol sydd ar gael i ysgolion," meddai llefarydd.
"Fe wnaethon ni hefyd adolygu sut roedden nhw wedi ymgysylltu ag ysgolion a dysgwyr i sicrhau y byddai'r gofynion adnoddau corfforol, technegol, ac adnoddau dynol yn rhai mae modd eu rheoli."
Ychwanegodd Cymwysterau Cymru y bydd y cyrff dyfarnu sy’n cynnig y cymwysterau yn cefnogi ysgolion i ddeall a bodloni’r gofynion. Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn parhau i fod mewn cysylltiad ag ysgolion cyn cyflwyno’r cyrsiau TAAU am y tro cyntaf yn 2027.