Creu canolfan gymunedol newydd yn Stadiwm CPD Dinas Bangor 1876

CPD Bangor

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor 1876 wedi cyhoeddi cynllun i greu canolfan gymunedol newydd gwerth £150,000 ar safle stadiwm y clwb.

Y bwriad yw creu lle ar gyfer prosiectau, mentrau a chyfleoedd cymunedol newydd, meddai’r trefnwyr.

“Bydd y Ganolfan yn darparu gofod croesawgar a hygyrch ar gyfer iechyd a lles, addysg a hyfforddiant, prosiectau cymunedol a chyflogaeth a mentergarwch,” meddai’r clwb.

Bydd y ganolfan hefyd yn darparu lle ar gyfer digwyddiadau, cynadleddau a lletygarwch.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor 1876:

“Bydd [y ganolfan newydd] yn cynnwys ystafell gynadledda/digwyddiadau, cegin, toiledau a mynediad i bobl anabl, gan helpu hefyd i leihau’r pwysau ar ein hadeilad clwb presennol.

“Mae bwrdd y clwb hefyd yn gweithio y tu ôl i’r llenni i ddatblygu dau stand newydd y tu ôl i bob gôl; maent wedi paratoi ceisiadau cynllunio ac ar hyn o bryd yn gweithio gyda phartneriaid ariannu ar gam nesaf y cynlluniau hynny.

“Mae ein huchelgais yn syml: Gwneud Stadiwm Dinas Bangor y gorau y gall fod, ar gyfer pêl-droed ac ar gyfer ein cymuned.”

Y gobaith yw y bydd y ganolfan newydd wedi’i chwblhau erbyn mis Chwefror 2027.

Llun: Clwb Pêl-droed Dinas Bangor 1876

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.