'Tri o'r bobl orau erioed': Teyrnged plismon a gollodd ei deulu mewn tân
Mae plismon a gollodd ei wraig a’i ddau blentyn yn dilyn tân mewn tŷ yn Sir Gaerloyw ar Ddydd San Steffan wedi rhoi teyrnged iddynt.
Ceisiodd Tom Shearman achub ei deulu oedd yn gaeth yn y tŷ yn ardal Brimscombe Hill ger Stroud.
Bu farw ei wraig Fionnghuala Shearman, oedd yn cael ei hadnabod fel Nu, a’u dau o blant, Eve, saith oed, ac Ohner, pedair oed.
Llwyddodd Mr Shearman, sydd yn blismon gyda Heddlu Sir Gaerloyw, i ddianc ond roedd y tân yn rhy ffyrnig iddo achub ei deulu.
Mewn teyrnged i'w deulu, dywedodd Mr Shearman: "Fe wnaeth fy mywyd i, bywyd fy anwyliaid a'r gymuned gyfan newid ar Ddydd San Steffan.
"Yn bwysicach fyth, ac yn drasig, fe gafodd tri o'r bobl orau erioed eu cymryd nid yn unig oddi wrthyf i, ond oddi wrthym ni i gyd.
"Fedra i ddim dechrau disgrifio poen a thrawma digwyddiadau Dydd San Steffan 2025. Fe gafodd craidd fy nheulu ei rwygo yn y ffordd fwyaf treisgar."
Mae tudalen codi arian ar wefan GoFundMe bellach wedi codi dros £300,000 ers ei sefydlu ddydd Sul i helpu Mr Shearman.
Ychwanegodd: "Er na all unrhyw beth ddadwneud yr hyn ddigwyddodd, na chwaith gwneud unrhyw synnwyr o'r dioddefaint, dwi wedi fy nghyffwrdd y tu hwnt i amgyffred ar beth mae'r dudalen yma yn ei gwneud.
"Mae fy nheulu a fy ffrindiau wedi fy amgylchynu gan ddarparu'r pethau hanfodol. Mae gen i do dros fy mhen, dillad ar fy nghefn, bwyd - ac yn bwysicach fyth, cwmni a thrugaredd. Fe wna i wella.
"Plis cymerwch bob cyfle i gofleidio eich hanwyliaid, dywedwch wrthynt eich bod chi'n eu caru. Oherwydd fel dywedodd Paulo Coelho, un diwrnod byddwch chi'n deffro ac ni fydd mwy o amser i wneud y pethau rydych chi eu heisiau. Gwnewch hynny rŵan."