Profion rheolaidd i fenywod sy'n colli baban yn y groth 'yn gallu atal 10,000 o achosion' yn flynyddol

Colli baban yn y groth

Byddai cynnig profion rheolaidd i fenywod ar ôl iddyn nhw golli baban yn y groth "'yn gallu atal 10,000 o achosion" yn flynyddol, yn ôl astudiaeth newydd.

Yn y rhan fwyaf o achosion, dyw menywod ddim yn derbyn profion rheolaidd ar y Gwasanaeth Iechyd tan eu bod yn colli baban yn y groth am y trydydd tro.

Yn ôl elusen Tommy's, byddai'r newidiadau yn arbed £40 miliwn i'r GIG ledled y DU ar ôl blwyddyn.

Fe fyddai modd ychwanegu'r mesurau newydd "heb unrhyw waith ychwanegol arwyddocaol i'r GIG," meddai'r elusen.

Dywedodd adroddiad gan yr elusen bod teuluoedd yn teimlo bod "diffyg cefnogaeth" ar gael ar hyn o bryd.

Mae ymchwil gan Tommy's yn amcangyfrif bod tua 250,000 achos o golli baban yn y groth yn y DU bob blwyddyn.

Mae astudiaeth beilot gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Genedlaethol Tommy’s ac Ysbyty Menywod Birmingham wedi treialu cynllun gofal colli baban yn y groth.

O dan y cynllun roedd y GIG yn ymyrryd yn gynharach, gyda menywod yn cael cynnig ymgynghoriad un-i-un gyda nyrs arbenigol ar ôl eu colled gyntaf i drafod iechyd cyn cenhedlu ac yn ystod beichiogrwydd.

Mae’n bosibl hefyd y bydd yr hormon progesteron yn cael ei gynnig mewn beichiogrwydd yn y dyfodol os yw menyw wedi profi gwaedu cynnar o’r wain.

Ar ôl dau achos o golli baban yn y groth, byddai cleifion yn cael cynnig profion am anaemia a gweithrediad annormal y thyroid. Os fyddent wedyn yn mynd ymlaen i golli baban yn y groth am y trydydd tro, byddai menywod yn cael cynnig y gofal safonol sy'n cael ei gynnig gan y GIG ar hyn o bryd.

'Trawma'

Dywedodd yr Athro Arri Coomarasamy, cyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Tommy’s, y byddai miloedd o deuluoedd yn osgoi "trawma colli baban yn y groth" petai'r cynllun yn dod i rym.

“Pe bai’r model yma yn cael ei weithredu ledled y DU, mae ein hastudiaeth yn awgrymu y gallai atal tua 10,075 achos o golli baban yn y groth bob blwyddyn," meddai.

“Mae hynny’n golygu mwy na 10,000 o deuluoedd yn mynd â’u babanod adref yn hytrach na dioddef trawma colli baban yn y groth.”

Roedd astudiaeth Tommy's yn cynnwys 203 o fenywod â hanes o golli o leiaf un baban yn y groth neu fwy a gafodd ymyrraeth gynnar, ynghyd â 203 a gafodd y gofal arferol.

O blith y menywod a gafodd y model newydd o ofal, roedd gan 86% un ffactor neu fwy a allai gynyddu eu risg o golli baban yn y groth yn y dyfodol, o’i gymharu â 58% yn y grŵp a gafodd y gofal safonol.

Hefyd, ymhlith menywod a oedd wedi cael dwy golled, roedd y math o fodel newydd wedi canfod fod gan un o bob pump naill ai broblemau thyroid neu anaemia, a gafodd eu nodi mewn profion gwaed na fyddent fel arfer yn cael eu cynnig iddynt tan yn hwyrach.

Beth mae'r pleidiau'n ei ddweud?

Mae Kath Abrahams, Prif Weithredwr Tommy’s, yn galw ar i'r model newydd gael ei gyflwyno yng Nghymru.

Dywedodd fod yr Alban eisoes wedi cynnwys y model newydd yn eu cynlluniau gofal colli baban yn y groth.

Yn ôl Plaid Cymru dyw “menywod ddim yn derbyn y driniaeth maent yn haeddu” dan Lywodraeth Lafur ac fe fyddai Plaid Cymru yn “ystyried yn ofalus yr achos dros gynyddu nifer y profion sydd ar gael i fenywod.”

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol eu bod nhw “eisiau gweld gwelliannau mewn gofal mamolaeth, gan gynnwys mynediad gwell at gefnogaeth, diagnosis cynt a safonau uwch ledled y Gwasanaeth Iechyd.”

Dywedodd Llafur Cymru mai mater i Lywodraeth Cymru oedd rhoi ymateb. Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi "cyfyngu" ar gyhoeddi datganiadau newydd gydag etholiad y Senedd ar y gweill.

Mae Reform UK yn dweud eu bod yn "croesawu'r astudiaeth" a bod "newid bach gyda'r potensial i achub bywydau ac achub arian trethdalwyr."

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i'r Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.