Abertawe: Arestio pedwar wedi i fachgen 17 oed ddioddef anafiadau 'difrifol iawn'

01/01/2026
heol mysydd.jpg

Mae bachgen 17 oed wedi’i gludo i’r ysbyty gydag anafiadau "difrifol iawn" yn dilyn digwyddiad yn Abertawe ar Nos Galan.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Heol Mysydd, Plasmarl am tua 21:45 nos Fercher wedi adroddiadau o aflonyddwch.

Mae teulu'r bachgen 17 oed yn cael ei gefnogi gan swyddogion arbenigol. 

Mae pedwar arall, bachgen 17 oed o Gwmrhydyceirw, bachgen 18 oed o Dreforys, bachgen 17 oed o Clase a bachgen 17 oed o Dreboeth wedi eu harestio ar amheuaeth o affräe mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Katherine Barry: "Roedd hon yn gyfres o ddigwyddiadau o anhrefn yn ymwneud ag un grŵp o ddynion ifanc.

"Rydym yn ymwybodol fod yna ddeunydd am y digwyddiad wedi cael ei rannu'n eang ar gyfryngau cymdeithasol."

Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2500412140.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.