Holl Atebion Cwis Mawr Y Flwyddyn 2025

01/01/2026
Cyfres o luniau o Snoop Dog, Peppa Pig, Jac Morgan, Donald Trump a Jess Fishlock

Gawsoch chi gyfle i gofio'r hyn a fu yn y penawdau yn 2025 wrth roi tro ar Gwis Mawr y Flwyddyn Newyddion S4C?

Dyma'r atebion yn llawn i'r rhai fu'n crafu pen dros y cwestiynau yn ystod y dyddiau diwethaf:

1.) Pwy ddaeth yn fuddugol yn y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025? Greta Siôn

2.) Fe gafodd angladd cyn ddirprwy brif weinidog y DU ei gynnal yn Hull ddiwedd mis Ionawr. Angladd pwy oedd o? John Prescott

3.) Colli'n drwm oedd hanes tîm rygbi Cymru yn erbyn De Affrica yng Nghyfres yr Hydref. Beth oedd y sgôr? 0-73

4.) Pêl-droed: Fe roddodd Cymru grasfa 7-1 i Ogledd Macedonia ym mis Tachwedd. Fe sgoriodd Harry Wilson hatric. Pa bedwar Cymro arall sgoriodd yn y gêm honno? David Brooks, Brennan Johnson, Dan James & Nathan Broadhead

5.) Fe ddaeth yr opera sebon boblogaidd Neighbours i ben am y tro olaf eleni. Ym mha flwyddyn y cafodd y gyfres ei darlledu gyntaf? 1985

6.) Bu farw'r actor Gene Hackman yn 95 oed ym mis Chwefror. Pa gymeriad dieflig yr oedd o'n ei actio mewn nifer o ffilmiau Superman? Lex Luthor

7.) Ym mis Mai fe roddodd mam y cymeriad Peppa Pig enedigaeth i aelod newydd o'r teulu. Beth oedd enw chwaer newydd Peppa? Evie

Image
Peppa

8.) Pwy roddodd y gorau i'w swydd ym mis Chwefror fel prif hyfforddwr rygbi Cymru ar ôl colli 14 o gemau prawf ? Warren Gatland

9.) Ym mha fis y dechreuodd Oasis ar eu taith ryngwladol drwy berfformio ar ddwy noson yng Nghaerdydd? Gorffennaf

10.) Pa wlad y gwnaeth Donald Trump fygwth ei chipio fel 51fed talaith yr UDA ym mis Mawrth? Canada

Image
Donald Trump

11.) Yn lle cafodd Eisteddfod yr Urdd ei chynnal eleni? Parc Margam, Port Talbot

12.) Ym mis Hydref fe ddaeth cyfnod Michael D. Higgins fel Arlywydd Iwerddon i ben wedi 14 o flynyddoedd. Pwy ddaeth yn ei le? Catherine Connolly

13.) Cafodd mamoth yn Amgueddfa Cymru ei enwi ym mis Tachwedd yn dilyn pleidlais gan y cyhoedd. Beth yw ei enw? Tom Bones

14.) Daeth enw'r gadwyn o siopau WH Smith i ben eleni. Pa enw sydd yn cael ei ddefnyddio yn ei le ar eu siopau bellach? TGJones

15.) Cafodd cyn arweinydd Reform yng Nghymru, Nathan Gill, ei garcharu ym mis Tachwedd am lwgrwobrwyo. Beth oedd hyd ei ddedfryd? 10 mlynedd a hanner

16.) Beth oedd enw'r ceffyl buddugol yn ras y Grand National ym mis Ebrill? Nick Rockett

17.) Rygbi: Pwy gafodd ei ddewis yn gapten ar y Llewod ym mis Mai? Maro Itoje

18.) Ym mha ddinas yn yr UDA y cafodd y Pab Leo XiV ei eni? Chicago

Image
Pab Leo XiV

19.) Beth oedd enw'r ymgeisydd buddugol yn is-etholiad Caerffili ar gyfer Senedd Cymru ym mis Hydref? Lindsay Whittle

20.) Fe ddaeth y ddrama 'Mr Bates Vs The Post Office' i'r brig yng ngwobrau BAFTA ym mis Mai. Beth yw enw'r actor a chwaraeodd ran Syr Alan Bates? Toby Jones

21.) Pa gyn-bencampwr bocsio'r byd a fu farw'n 46 oed ym mis Medi? Ricky Hatton

22.) Pa gyflwynydd BBC Radio Wales adawodd yr orsaf ym mis Mai? Wynne Evans

23.) Pa gerddor enwog ddaeth yn gyd-berchennog ar Glwb Pêl-droed Abertawe eleni? Snoop Dogg

Image
Snoop Dogg

 

24.) Pwy oedd ennillydd Gwobrau Gerddoriaeth Gymreig 2025 gyda'r albwm Tyrchu Sain? Don Leisure

25.) Cafodd y ddynes gyntaf erioed ei dewis i fod yn arweinydd ar Gyngor Conwy ym mis Awst. Beth yw ei henw? Julie Fallon

26.) Pa gyn aelod o'r cabinet Ceidwadol a chyfaill agos i Margaret Thatcher fu farw'n 94 oed ym mis Gorffennaf? Yr Arglwydd Norman Tebbit

27.) Beth yw enw ci Aaron Ramsey aeth ar goll ym Mecsico ym mis Hydref? Halo

28.) Pwy gipiodd Gwobr Goffa Daniel Owen yn y Brifwyl yn Wrecsam eleni? Peredur Glyn

29.) Cafodd achos cyfreithiol yn erbyn aelod o Kneecap ei daflu allan o'r llys ym mis Medi. Beth yw enw'r aelod? Liam Og O hAnnaidh/Mo Chara

30.) Fe wnaeth Jess Fishlock ymddeol o chwarae pêl-droed rhyngwladol ym mis Hydref. Sawl cap rhyngwladol gafodd hi cyn ymddeol? 166

Image
Jess Fishlock

31.) Cafodd y fenyw gyntaf erioed ei phenodi'r Archesgob Caergaint eleni. Beth yw ei henw? Y Fonesig Sarah Mullally

32.) Ym mha ddinas yng Nghymru y bu Bob Dylan yn perfformio ynddi eleni? Abertawe

33.) Bu farw cyn seren Lerpwl, Wrecsam a Chymru Joey Jones yn 70 oed ym mis Gorffennaf. Ym mha dref y cafodd ei eni? Llandudno

34.) Beth oedd enw 12fed albwm Taylor Swift gafodd ei rhyddhau ym mis Hydref? The Life of a Showgirl

Image
Taylor Swift
Hawlfraint: Matt Crossick/PA Media Assignments/PA Wire

35.) Beth yw enw'r awdures a ddywedodd ym mis Medi y byddai mewn perygl o gael ei harestio os byddai'n teithio i Brydain, wedi iddi leisio ei chefnogaeth i Palestine Action? Sally Rooney

36.) Bu farw'r actor Robert Redford eleni yn 89 oed. Pa actor arall oedd yn serennu gydag o yn y ffilm 'All The President’s Men?' Dustin Hoffman

37.) Ym mha dalaith yn America y cafodd Charlie Kirk ei lofruddio ym mis Medi 2025? Utah

38.) Lle yng Nghymru yw'r man hapusaf i fyw ynddo yn ôl un arolwg gafodd ei gyhoeddi eleni? Ynys Môn

39.) Pa grŵp roc o Gymru gyhoeddodd eu bod yn ailffurfio ar gyfer cyfres y gyngherddau yn 2026? Super Furry Animals

Image
Super Furry Animals

40.) Fe gyhoeddodd y Blaid Werdd eu bod wedi dewis arweinydd newydd eleni. Beth yw ei enw? Zack Polanski

41.) Cyhoeddodd yr artist CMAT ei bod yn gohirio nifer o gyngherddau o achos ei hiechyd ym mis Hydref. Beth yw ei henw llawn? Ciara Mary-Alice Thompson

42.) Golff: Ewrop oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Ryder Cup eleni. Ym mha wlad fydd y gystadleuaeth yn 2027? Iwerddon

43.) Gemwaith aur o pa gyfnod mewn hanes gafodd ei ddwyn o Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ym mis Hydref? Oes Efydd

44.) Pwy ennillodd bencampwriaeth Wimbledon eleni - pencampwriaeth y dynion, a'r menywod? Jannik Sinner & Iga Świątek

45.) Beth oedd enw'r gân a'r artistiaid buddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2025? Troseddwr Yr Awr gan Dros Dro

Image
Can i Gymru

46.) Bu farw un o sêr y gyfres gomedi 'Faulty Towers' yn 93 oed eleni. Beth oedd ei henw? Prunella Scales

47.) Cafodd holl gemau grwpiau Cwpan y Byd FIFA 2026 eu cyhooeddi ym mis Rhagfyr. Ym mha dair dinas y bydd Cymru'n chwarae ynddynt os bydd carfan Craig Bellamy'n llwyddo i guro eu gemau ail-gyfle? Toronto / Los Angeles / Seattle

48.) Beth oedd enw cyn fasydd y Stone Roses a fu farw ym mis Tachwedd? Gary ‘Mani’ Mounfield

49.) Beth oedd gair neu derm Saesneg y flwyddyn yn ôl Gwasg Prifysgol Rhydychen? 'Rage bait'

50.) Pa actor oedd unig seren cynhyrchiad 'Playing Burton' eleni? Matthew Rhys

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.