Rhybudd i gerddwyr yn Sir Benfro oherwydd tirlithriadau

Arfordir Sir Benfro - llun Golwg

Mae rhybudd i gerddwyr gymryd gofal​ wrth gerdded ar hyd llwybr yr arfordir a'r traethau yn Sir Benfro wedi nifer o dirlithriadau diweddar 

Yn ôl Cyngor Sir Penfro a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae'n bosibl y bydd rhagor o dirlithiadau a chlogwyni'n cwympo wedi gaeaf gwlyb ar ôl yr haf sych y llynedd.   

Mae'r ddau awdurdod yn rhybuddio cerddwyr i gadw draw o ymylon clogwyni ac yn eu cynghori i beidio ag eistedd o dan glogwyni pan yn ymweld â thraethau.

Maen nhw'n pwysleisio fod y clogwyni ar hyd arfordir Sir Benfro wedi'u ffurfio'n naturiol ac yn newid yn gyson o ganlyniad i erydiad arfordirol ac effaith y tywydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Rydym wedi gweld nifer o dirlithriadau a chlogwyni’n cwympo o amgylch y sir dros y gaeaf ac rydym am i bobl sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r amgylchedd o’u cwmpas pan fyddant yma ac acw.

“Os ydych chi allan ar yr arfordir, arhoswch yn ddiogel a dilynwch ganllawiau Gwylwyr y Glannau i gadw'n ôl o ymylon a gwaelodion clogwyni, dilyn unrhyw arwyddion rhybuddio sydd yno, a chadw at lwybrau arfordirol sydd ag arwyddion arnynt.”

Dywedodd James Parkin, Cyfarwyddwr Natur a Thwristiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: "Ar ôl misoedd o dywydd gwlyb, rydym yn gweld bod ardaloedd o ansefydlogrwydd ar hyd sawl rhan o'r arfordir a byddem yn cynghori pawb i fod yn ymwybodol o'u hamgylchoedd a chymryd gofal ychwanegol wrth gerdded Llwybr yr Arfordir a'r traethau.

"Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr o asiantaethau partner i fonitro'r arfordir a chyhoeddi gwybodaeth a chyngor trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan lle bo angen."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.