Maxine Hughes: 'Gwasanaethau canser Cymru angen diagnosis cynt a gwell ôl-ofal'

Maxine Hughes

Mae'r newyddiadurwraig Maxine Hughes yn dweud bod angen diagnosis cynt a gwell ôl-ofal ar y system ganser yng Nghymru. 

Yn 45 oed, cafodd Maxine ddiagnosis o ganser y fron math negyddol triphlyg ar ôl darganfod lwmp yn Nadolig 2024 - ddyddiau yn unig ar ôl marwolaeth ei thad.

A hithau'n byw yn Washington DC ac â yswriant iechyd da, o fewn pythefnos roedd wedi derbyn ei diagnosis ac yn dechrau ar gwrs o driniaeth cemotherapi. 

Mae rhaglen ddogfen newydd 'Maxine Hughes: Canser ar ba gost?' ar S4C yn archwilio rhai o’r heriau sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn dilyn diagnosis Maxine.

Yn byw a gweithio yn yr Unol Daleithiau, mae Maxine yn holi'r cwestiwn a fyddai hi dal yn fyw pe bai hi wedi derbyn diagnosis yng Nghymru. 

Bydd un ymhob dau yn y DU yn wynebu canser yn ystod eu bywyd ac mae Cymru ymhlith y cyfraddau goroesi canser gwaethaf yn Ewrop.

Triniaeth gyflym

Dywedodd Maxine: "Bob tro dwi’n siarad gyda pobol ’nôl yng Nghymru, ma’ pobol yn deud, dwi’m yn gallu coelio sut ti ‘di cael triniaeth mor gyflym, sut ti wedi cael diagnosis a pythefnos wedyn ti’n eistedd lawr yn y gadair i gael y chemo cyntaf.

"Mae ’na dri peth sydd yn bwysig i fi. Un, dwi ddim isio bod y plant yn gorfod dioddef mwy na beth sydd yn rhaid iddyn nhw. 

"Dau, dwi isio cario ‘mlaen gweithio, ma’ gwaith yn bwysig iawn i fi ac mae’n ‘neud i fi deimlo’n normal. 

"A tri, yr unig beth sydd rili wedi bod yn anodd iawn yw colli gwallt. Dwi ddim isio pobl i edrych arna i fel rhywun sy’n sâl, felly roedd y wig yn bwysig i fi."

Image
Maxine Hughes - Canser ar Ba Gost 4.png
Cafodd Maxine ddiagnosis o ganser y fron math negyddol triphlyg ar ôl darganfod lwmp yn Nadolig 2024.

Mae Maxine yn cymharu canlyniadau canser yng Nghymru ac UDA, lle mae pobl yn gyffredinol yn talu am eu gofal iechyd drwy gynllun yswiriant.

Wrth gael ei holi a fyddai'n well ganddo gael diagnosis yng Nhymru neu'n UDA, dywedodd yr oncolegydd Dr Gareth Morris-Stiff: "Dwi’n credu yn America, y peth amlwg, os oes insurance da ‘da ti, mae triniaeth gorau’r byd ar gael ac fel arfer mewn amser byr. 

"Felly, does dim aros. Ym Mhrydain ac yng Nghymru mae llawer o’r meddygon a nyrsys gorau yn y byd ar gael ond mae’n rhaid aros. Dyw e ddim yn dod mor gyflym."

Ôl-ofal

Mae Maxine hefyd wedi ei synnu ar y gwahaniaeth yn yr ôl-ofal, gan y bydd hi yn gweld oncolegydd bob chwe mis am bum mlynedd i gael sganiau a phrofion gwaed yn dilyn ei thriniaeth yn America.

Ond mae blodyn cenedlaethol Cymru, y cennin pedr, yn dod â gobaith newydd y gallai Cymru fod ar y flaen y gad yn y frwydr yn erbyn canser. 

Mae'r ffermwr Kevin Stepens yn gweithio gyda Gareth Morris-Stiff ac yn rhan o brosiect ym Mhowys sy'n ymchwilio i gyfansoddion cennin pedr sydd â phriodweddau gwrth-ganser a allai fod yn arwyddocaol.

Mae cennin pedr yn cynhyrchu galantamin, a gaiff ei ddefnyddio i drin clefyd Alzheimer.

Dywedodd Kevin: "Mae’r gwanwyn yng Nghymru yn wlyb iawn, yn gynnes ac yn fwyn; amodau perffaith ar gyfer tyfu cennin pedr. Mae tir uchel yma yng Nghymru hefyd. Beth sydd angen arnom nawr yw rhoi’r gweithdrefnau yn eu lle o ran yr ymchwilwyr a’r datblygiad technolegol a’r clinigwyr i gymryd hyn a thrawsnewid stori canser ar draws y byd,

"Gyda hyn mewn lle, gallem arwain y ffordd yn fyd-eang o ran y frwydr yn erbyn canser, a hynny o ffermydd mynydd Cymreig."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.