Apêl am gymorth i ddynes o'r gogledd sydd yn ddifrifol wael yn Tenerife
Mae apêl ariannol wedi ei sefydlu er mwyn helpu dynes o'r gogledd sydd yn ddifrifol wael yn Tenerife.
Roedd Jade Bird, 33 oed, o Abergele yn Sir Conwy ar ei gwyliau ar yr ynys, ag i fod i hedfan adref ddydd Mercher.
Yn ôl ei ffrindiau, fe ddioddefodd symptomau cur pen i ddechrau cyn cael ei chludo i'r ysbyty gyda haint ar ei hymennydd.
Y gred yw bod yr haint hwnnw bellach wedi datblygu i fod yn llid yr ymennydd.
Dywedodd ei ffrind Joanne McIver mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol fod Jade yn "brwydro am ei bywyd mewn ward gofal dwys" a bod y newyddion am ei chyflwr wedi dod fel "sioc enfawr i'w theulu a phawb sydd yn ei hadnabod."
"Mae unrhyw un sy'n adnabod Jade yn gwybod pa mor anhygoel yw hi. Mae hi'n goleuo pob ystafell mae hi'n cerdded iddi.
"Mae ei ffraethineb cyflym, ei jôcs doniol a'i phersonoliaeth enfawr yn ei gwneud hi'n amhosibl peidio â'i charu. Mae hi'n ffyrnig o ffyddlon, yn ofalgar a byddai'n gwneud unrhyw beth dros y bobl mae hi'n eu caru. Mae hi'n dod â llawenydd, cynhesrwydd a chwerthin i bawb o'i chwmpas.
"Ar hyn o bryd, mae angen yr holl nerth, cariad a chefnogaeth y gallwn ei rhoi iddi ar Jade."
Mewn diweddariad nos Lun, dywedodd Ms McIver nad oedd Jade yn ymateb fel yr oedd y meddygon wedi gobeithio, a'u bod yn cadw llygad barcud ar ei chyflwr yn ystod y cyfnod yma.
Mae'r apêl codi arian wedi cyrraedd dros £8000 a gobaith ffrindiau Jade yw codi hyd at £50,000 er mwyn darparu'r costau ychwanegol yn ystod y cyfnod anodd i'r teulu.
