Ymgyrchydd yn gobeithio dychwelyd i Iran o Gymru

ITV Cymru
Tina.jpg

Mae menyw o Iran yn dweud iddi hi a’i theulu dderbyn bygythiadau gan Lywodraeth Iran ar ôl iddi feirniadu’r gyfundrefn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fe symudodd Tina i Gymru yn 2006, ar ôl i’w mam ddewis gadael Iran, a magu ei theulu tu allan i’r system wleidyddol sydd yn y wlad. 

Er bod cyfyngiadau i fynegu barn yn erbyn y llywodraeth yn Iran, mae Tina yn teimlo bod y pellter o’i mamwlad yn rhoi mwy o ddiogelwch iddi i godi’i llais yn erbyn arweinwyr y wlad. 

Dywedodd ei bod hi’n “teimlo’n ddigon saff i ffwrdd o Iran i allu siarad allan, ond yn poeni am beth fydd yn digwydd i’r teulu yn Nhehran, a fi fy hun os bydd angen mynd nôl i’r wlad.”

Mae hi’n dweud bod Llywodraeth Iran wedi anfon llythr i’w theulu yn y wlad ym mis Ionawr, ar ôl gweld negeseuon Tina ar-lein. 

Dywedodd bod y llythr yn ei chyhuddo hi o fradychu - trosedd all arwain at y gosb eithaf yn Iran. 

Dywedodd  Tina wrth ITV Cymru: “Mae fy nheulu wedi derbyn llythr yn datgan bod fy mhroffil yn annog rhyfela yn erbyn Duw, ac yn annog trais.

“Roeddwn i’n poeni am beth fydd yn diwgydd i fi…meddyliais am Mahsa Amini. A’i dyma fydd yn diwgydd i fi neu fy nheulu?”

Y gred yw y gallai aelodau o deulu Tina sydd dal i fyw yn Iran wynebu cosb os nad yw hi’n atal ei negeseuon ar-lein. 

Er iddyn nhw boeni am y gosb, mae hi’n dweud bod ganddi gefnogaeth ei theulu i ddyfalbarhau.

“Os ydy llais bach fi yn dychryn y llywodraeth ddigon iddyn nhw fygwth fi a fy nhheulu, mae’n amlwg bod hyn yn gweithio.”

Dechreuodd Tina godi ei llais yn erbyn y gyfundrefn y llynedd, gyda’r neges “Javid Shah” sef slogan gwleidyddol i gefnogi Pahlavi (y Shah diwethaf gafodd ei orchfygu yn Chwyldro 1979). 

Mae’r slogan gwrth-gyfundrefnol yn boblogaidd yn Iran gyda phrotestwyr sy'n galw am ddiwedd ar y Weriniaeth Islamaidd.

Image
“Fy nod pennaf mewn bywyd yw cael Iran mor ffyniannus byddaf yn gallu pacio fy magiau, a mynd i fy ngwlad” Llun: Instagram @tinayeiran
'Fy nod pennaf mewn bywyd yw cael Iran mor ffyniannus byddaf yn gallu pacio fy magiau, a mynd i fy ngwlad' Llun: Instagram @tinayeiran

Ym mis Tachwedd, fe gyflwynodd y llywodraeth yn Iran waharddiad cyfryngau cymdeithasol i geisio atal protestio. 

Dywedodd Tina bod clywed am ddioddefaint a marwolaethau protestwyr yn gatalydd i hi ddechrau rhoi negeseuon gwrth-gyfundrefnol ar ei phroffil ei hun. 

Dywedodd nad oedd hi am “eistedd yng nghysur fy nghartref pan mae pobl yn marw. Mae gen i fraint ac mae’n bwysig i fi defnyddio hyn.”

Mae Tina nawr yn croesawu ymyrraeth ryngwladol i geisio newid trefn wleidyddol Iran, ac yn gobeithio dychwelyd i Iran yn y dyfodol.

“Rydw i’n falch bod yn Gymraeg, ond rydw i eisiau gweithio yn Iran, talu trethi yn Iran, ail-adeiladu'r Iran y mae fy nheulu wedi tyfu ynddi.

“Fy nod pennaf mewn bywyd yw gweld Iran yn ffynu unwaith eto. Yna, gallaf bacio fy magiau, a mynd i fy ngwlad, a helpu i’w hailadeiladu o’r dechrau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.