Rhyfel Iran: Ymosodiad ar Lysgenhadaeth America yn Baghdad

Mwg yn yr awyr yn Beirut

Wrth i'r gwrthdaro rhwng lluoedd Israel ag America ac Iran barhau yn y Dwyrain Canol ar ôl 17 diwrnod o ymladd, mae llysgenhadaeth America yn Irac wedi ei thargedu dros nos.

Cafodd dronau eu gweld yn taro adeilad y llysgenhadaeth yn Baghdad, ond nid oes adroddiadau am unrhyw anafiadau hyd yma.

Y gred yw bod hyd at dau o ddronau wedi taro'r adeilad.

Yn y cyfamser mae lluoedd Israel wedi dechrau ar don newydd o ymosodiadau ar Tehran yn Iran a Beirut yn Libanus, gyda'r fyddin yn targedu safleoedd Hezbollah dros y ffin yn Libanus  a safleoedd milwrol Iran.

Nid oes pall ar yr ymladd rhwng byddinoedd Iran, Israel a'r UDA hyd yma, ac mae dirprwy weinidog tramor Iran wedi rhybuddio Donald Trump fod ei wlad yn wynebu Fietnam arall os bydd milwyr o'r UDA yn cynnal ymgyrch filwrol ar dir Iran.

Mae pris olew yn parhau i fod dros $100 y gasgen, ac mae Donald Trump yn parhau i bwyso ar wledydd eraill i gefnogi ei ymgyrch filwrol yn y rhanbarth er mwyn sicrhau diogelwch Cefnfor Hormuz, yn enwedig gan gynghreiriaid Nato.

Ond mae Canghellor yr Almaen Friedrich Merz wedi dweud mai nid mater i Nato yw'r rhyfel yn y Dwyrain Canol, gan ychwanegu fod gwledydd sydd yn aelodau o'r gynhrair wedi cynnig gymorth ychwanegol ym Môr y Canoldir.

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.