Caint: Nifer yr achosion o lid yr ymennydd yn codi i 15

Meningitis Caint (PA)

Mae nifer yr achosion o lid yr ymennydd, sydd yn gysylltiedig â chlwstwr o achosion yng Nghaint, de Lloegr, bellach wedi codi i 15.

Mae’r achos o lid yr ymennydd, neu meningitis, wedi achosi marwolaeth dau fyfyriwr yn y sir.

Daeth cadarnhad gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) brynhawn Mawrth bod niferoedd yr achosion wedi’u nodi ers 13 Mawrth, wedi codi o 13 i 15.

Mae pedwar o’r 15 achos bellach wedi eu cadarnhau mewn labordai fel rhai Llid yr Ymennydd math B.

Nid yw mwyafrif y bobl ifanc gafodd eu geni cyn 2015 wedi eu brechu ar gyfer y math yma o lid yr ymennydd. Cafodd brechiadau eu cyflwyno ar y gwasanaeth iechyd yn 2015.

Mae pawb sydd wedi’u heintio yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty, a'r gred yw bod rhai wedi cael eu rhoi mewn coma

Image
Caint
Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caint yn disgwyl am gwrthfiotigau (Llun: PA)

Mae UKHSA bellach wedi dweud y byddant yn cynnig rhaglen frechu ar gyfer y rhai sydd yn byw mewn neuaddau preswyl ar gampws Caergaint, ym Mhrifysgol Caint.

Mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, Wes Streeting, ei fod yn “achos digynsail”.

“Mae’n sefyllfa sy’n datblygu’n gyflym iawn,” meddai.

“Mae mwyafrif yr achosion yn gysylltiedig â chlwb nos Club Chemistry dros ddyddiadau’r pumed, chweched a seithfed o Fawrth, a’r rhwydweithiau cysylltiedig. Mae Club Chemistry bellach ar gau yn wirfoddol.”

Fe wnaeth Mr Streeting gadarnhau y byddai’r ffigyrau’n cael ei diweddaru’n ddyddiol gan UKHSA am 09.30.

Dywedodd bod 700 o ddosau o wrthfiotigau wedi’u dosbarthu hyd yn hyn.

Cafodd yr awdurdodau yn Ffrainc hefyd wybod am yr achosion, ar ôl i unigolyn o Ffrainc ymweld â’r brifysgol.

Image
Wes Streeting
Yr Ysgrifennydd Iechyd, Wes Streeting AS

Mae tair ysgol yng Nghaint wedi cadarnhau achosion o lid yr ymennydd yn ogystal, gydag un o’r ddau berson a fu farw, myfyrwraig blwyddyn 13 o’r enw Juliette, yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Queen Elizabeth yn Faversham

Roedd y person arall a fu farw yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caint.

“Mae fy meddyliau, a rhai’r Tŷ cyfan, gyda theuluoedd a ffrindiau’r ddau berson ifanc, sydd yn anffodus, wedi marw.

“Allwn i ddim dechrau dod i ddeall beth y tybiwn i eu bod yn mynd drwyddo ar hyn o bryd,” ychwanegodd Mr Streeting.

Prif Lun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.