'Y nifer uchaf erioed' o bobl yn dysgu Cymraeg, yn ôl data newydd
Mae data newydd yn awgrymu bod mwy nag 20,000 o bobl bellach yn dysgu Cymraeg, sef y nifer uchaf erioed.
Roedd 20,445 o bobl wedi cwblhau cyrsiau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn 2024-2025 – cynnydd o 61% ers y cyhoeddiad data cyntaf yn 2017-2018 pan roedd 12,680 o ddysgwyr gyda'r ganolfan.
Roedd 62% o’r dysgwyr yn rhai oedd wedi dychwelyd i ddilyn cyrsiau Dysgu Cymraeg, ar ôl astudio yn flaenorol o fewn y pum mlynedd diwethaf.
Yn ôl y ganolfan, mae'r twf yn adlewyrchu ei dull strategol o ddarparu gwasanaethau dysgu Cymraeg.
Mae'r gwasanaethau yn cynnwys rhaglenni hyblyg ar gyfer grwpiau penodol a nifer o gyrsiau cymunedol.
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dweud bod pobl sy’n dysgu drwy’r gwaith bellach yn cynrychioli 39% o’r holl ddysgwyr (8,370), gan adlewyrchu’r "ehangu sylweddol" yn ei darpariaeth ar gyfer sectorau fel Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweithlu Addysg.
Mae’r mwyafrif o ddysgwyr, sef 17,350 o unigolion (84% o’r holl ddysgwyr a nododd eu dyddiad geni), rhwng 16 a 64 oed.
Ar yr un pryd, mae cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc sy’n dysgu Cymraeg.
Yn ystod 2024-2025, roedd 4,110 o ddysgwyr rhwng 16 a 24 oed – cynnydd o 56% o’i gymharu â 2023-2024, a chynnydd sylweddol o 483% ers 2018-2019, pan gyhoeddodd y Ganolfan ddata am oedran dysgwyr am y tro cyntaf. Bryd hynny roedd 705 o ddysgwyr yn y grŵp oedran 16-24.
Yn ystod 2024-2025 gwnaeth dysgwyr hefyd ddwysáu eu dysgu drwy gwblhau 34,960 o weithgareddau dysgu, sef cynnydd o 12% o’i gymharu â 2023-2024.
Yn ôl y data, roedd y mwyafrif o ddysgwyr (61%) ar Lefel Mynediad, gyda 14% ar Lefel Sylfaen, 9% ar Lefel Canolradd, a 14% ar Lefel Uwch a Hyfedredd.
Roedd 2% wedi cwblhau cyrsiau ar Lefel Codi Hyder, cyrsiau o fath newydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg sydd eisiau codi hyder i ddefnyddio rhagor o Gymraeg.
'Twf cyson a chadarn'
Dywedodd Dona Lewis, prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "’Dyn ni’n falch iawn o’r ffigurau diweddaraf hyn, sy’n dangos twf cyson a chadarn yn niferoedd y bobl sy’n dysgu Cymraeg.
"Mae’r ffigurau’n adlewyrchu cynllunio strategol y Ganolfan a’r ffordd mae’n defnyddio ei harbenigedd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd – yn enwedig yn y gweithle – sy’n cefnogi ein nod o greu mwy o siaradwyr Cymraeg."
Fe aeth ymlaen i ddweud ei bod yn "arbennig o falch" o weld cynnydd yn y bobl ifanc sy’n cwblhau eu cyrsiau.
"’Dyn ni wedi datblygu darpariaeth benodol ar gyfer y grŵp oedran yma, ac mae ein partneriaethau â sefydliadau fel yr Urdd yn creu cyfleoedd newydd i bobl ifanc ledled Cymru," meddai.
"’Dyn ni’n falch iawn o bob un o’n dysgwyr, sy’n frwdfrydig ac yn awyddus i ddefnyddio’u Cymraeg, ac o’r 500 a mwy o diwtoriaid ymroddedig sy’n eu cefnogi mewn cymunedau a gweithleoedd drwy’r wlad.
"Edrychwn ymlaen at groesawu llawer mwy o bobl at y Gymraeg, a’u cefnogi ar hyd pob cam o’u taith iaith."