Pennaeth diogelwch Iran wedi'i ladd mewn ymosodiad yn ôl Israel
Mae pennaeth diogelwch Iran, Ali Larijani, wedi cael ei ladd mewn ymosodiad, yn ôl gweinidog amddiffyn Israel.
Dywedodd Israel Katz fod Larijani wedi marw mewn ymosodiad gan Israel nos Lun.
Cafodd Larijani ei weld yn gyhoeddus ddiwethaf mewn gorymdaith Diwrnod Quds yn Tehran ddydd Gwener.
Ddiwrnod ynghynt, roedd Larijani wedi annerch Donald Trump yn uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol pan ddywedodd: "Er bod cychwyn rhyfel yn hawdd, nid oes modd ei ennill gydag ychydig o drydariadau. Ni fyddwn yn ildio hyd nes i ni wneud i chi ddifaru'r camgymeriad difrifol hwn."
Nid yw Iran wedi cadarnhau a yw wedi cael ei ladd neu ei anafu.
Ond mae'n ymddangos eu bod yn gwadu'r honiad drwy gyhoeddi neges y mae'n honni iddi gael ei hysgrifennu â llaw gan Larijani ddydd Mawrth.
Mae'r neges yn rhoi teyrnged i forwyr Iran a gafodd eu lladd mewn ymosodiad gan long danfor yr Unol Daleithiau ar eu llong ryfel Dena ar 4 Mawrth.
Roedd Larijani yn ymgynghorydd allweddol i gyn-arweinydd goruchaf Iran, Ali Khamenei, a gafodd ei ladd mewn ymosodiad milwrol ar ddechrau'r rhyfel rhwng Israel a'r Unol Daleithiau a lluoedd Iran ar ddiwedd mis Chwefror.
Yn dilyn marwolaeth Khamenei, mae Lluoedd Amddiffyn Israel yn dweud bod Larijani wedi "gweithredu fel arweinydd cyfundrefn Iran".
Daw'r newyddion am bennaeth diogelwch Iran ar ôl i'r wlad danio taflegrau at Israel, gan ailgychwyn ymosodiadau ar gynghreiriaid yr Unol Daleithiau yn y Gwlff dros nos, gan dargedu'r Emiradau Arabaidd Unedig a llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Baghdad.
Yn y cyfamser, mae Lluoedd Amddiffyn Israel yn dweud eu bod yn targedu Tehran a safleoedd Hezbollah yn Beirut mewn ton o ymosodiadau newydd.
Llun: Zuma Press Wire via Reuters Connect