Bil i wahardd rasio milgwn wedi pasio
Mae'r bil i wahardd rasio milgwn wedi pasio yn y Senedd ym Mae Caerdydd nos Fawrth.
Fe bleidleisiodd 39 o aelodau'r Senedd o blaid, 10 yn erbyn gyda dau yn ymatal.
Mae hyn yn golygu mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wahardd rasio milgwn.
Mae disgwyl i'r gwaharddiad gael ei gyflwyno'n raddol rhwng Ebrill 2027 ac Ebrill 2030.
Ond mae'r ddeddfwriaeth yn wynebu her gyfreithiol gyda Bwrdd Rasio Milgwn Prydain yn dadlau ei fod yn llawn beiau.
Yn ogystal, mae dau o bwyllgorau'r Senedd wedi beirniadu'r broses. Fe wnaeth gweision sifil hefyd godi pryderon nad oedd y dadleuon dros waharddiad llwyr yn ddigon cryf gan ddweud y gallai hyn effeithio ar enw da'r llywodraeth.
Yr unig drac rasio milgwn yng Nghymru ydy'r un yn Ystrad Mynach yn Sir Caerffili.
Yn 2021, cafodd deiseb ei chyflwyno i’r Senedd gan y grŵp Hope Rescue. Roedd gan y ddeiseb 35,101 o lofnodion. Roedd y grŵp yn galw am wahardd rasio milgwn.
Cafodd adroddiad, o'r enw ‘Y Troad Terfynol?’, ei drafod yn siambr y Senedd yn 2023, gyda mwyafrif yr aelodau'n cefnogi gwaharddiad.
Fe fuodd mwy na 2,000 o filgwn farw a chofnodwyd bron i 18,000 o anafiadau ar draciau trwyddedig yn y DU rhwng 2018 a 2021, yn ôl tystiolaeth gan y grŵp ymgyrchu Cut the Chase.
Cafodd deiseb arall 10,601 o lofnodion, yn cefnogi rasio milgwn yng Nghymru gan amlygu pryderon dros unrhyw waharddiad.
Cafodd y gwaharddiad ei gynnwys yn rhan o gyllideb 2025/26 ar y cyd gydag unig Aelod Senedd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds.