O leiaf 40 o bobl wedi marw mewn tân mewn canolfan sgïo yn Y Swistir
O leiaf 40 o bobl wedi marw mewn tân mewn canolfan sgïo yn Y Swistir
Mae o leiaf 40 o bobl eu lladd a 115 o bobl wedi'u hanafu mewn tân mewn canolfan sgïo yn Y Swistir yn ôl yr heddlu yn y wlad.
Fe ddechreuodd y tân am tua 01:30 mewn bar o'r enw Le Constellation yng nghanolfan sgïo Crans-Montana.
Nid yw achos y tân yn glir eto ond mae'r heddlu wedi awgrymu fod yna ffrwydrad wedi bod, gydag adroddiadau lleol yn dweud fod tân gwyllt wedi cael ei ddefnyddio.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau nad yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un terfysgol.
Mae'r awdurdodau yn Crans-Montana wedi dweud nad ydyn nhw'n gwybod faint o bobl oedd yn y bar pan ddigwyddodd y ffrwydrad.
Fe gafodd 42 ambiwlans, 13 hofrennydd a thri cherbyd argyfwng eu galw i ymateb â'r digwyddiad.
Yn ôl llywodraethau'r rhanbarth, mae "nifer sylweddol" o'r bobl sydd wedi'u hanafu mewn cyflwr "difrifol".
Mae 60 o bobl yn cael eu trin mewn ysbyty yn ninas Sion, tra bod eraill yn cael eu trin mewn dinasoedd eraill yn y wlad.
Mae awdurdodau mewn gwledydd cyfagos, gan gynnwys Ffrainc, Yr Almaen a'r Eidal, wedi cynnig trin cleifion â llosgiadau difrifol yn ogystal.
Mae'r ardal wedi ei chau lawr yn llwyr ac mae yna barth dim hedfan wedi bod mewn grym yn yr ardal.
Mae llinell gymorth wedi cael ei sefydlu ar gyfer teuluoedd y rhai sydd wedi'u heffeithio yn ôl yr heddlu.
Mae Crans-Montana yn dref sgïo moethus sydd wedi'i lleoli yng nghanol Alpau'r Swistir, tua dwy awr o brifddinas y wlad, Bern.
