Galwad am fwy o gefnogaeth i elusen feicio yng Nghaerdydd
Mae elusen feicio gynhwysol yng Nghaerdydd yn dweud bod angen mwy o gymorth ariannol hirdymor er mwyn sicrhau dyfodol ei gwaith.
Mae Pedal Power wedi bod yn darparu cyfleoedd i bobl o bob gallu i feicio ers bron i 30 mlynedd, gan gynnwys pobl sydd ag anableddau neu broblemau golwg.
Mae’r elusen yn cynnig amrywiaeth o feiciau sydd wedi eu haddasu, gan gynnwys tandems a beiciau ochr wrth ochr, neu side-by-side, sy’n galluogi pobl i feicio gyda chefnogaeth.
Dywedodd Jane McCann, sy’n aelod o’r grŵp tandem a sydd â nam ar ei golwg, na fyddai’n gallu beicio heb y gwasanaeth: “Fedra’ i ddim seiclo heb Pedal Power – mae’n anodd achos dwi ddim yn gallu gweld. Mae ganddyn nhw lawer o feiciau gwahanol, tandems a side-by-sides,” meddai.
Mae Maggie Rees, sydd hefyd yn rhan o’r grŵp tandem, yn dweud bod y cyfle i fynd allan ar y beic yn gwneud gwahaniaeth mawr:“Rydw i’n mwynhau mynd allan yn y glaw a’r heulwen ar y tandem dwi methu meddwl am ddim gwneud hwn bob wythnos."
Image
I rai, mae’r gwasanaeth yn cynnig cyfle i fynd allan i fannau gwyrdd yn y brifddinas na fyddent fel arall yn gallu eu cyrraedd.
Dywedodd Liz Reynolds, sy’n defnyddio'r elusen: “Byswn i ddim yn gallu mynd mewn i gaeau Llandaf a Pontcanna yn cerdded rili. Ond mae hwn yn rhoi’r cyfle i fi wneud hynny.”
Yn ôl staff yr elusen, mae'r gwaith yn parhau er gwaethaf heriau ariannol.
Dywedodd Robyn Hughes, swyddog hyfforddiant beicio gyda’r elusen: “Ni ’di bod wrthi’n gwneud y gwaith hyn ers 30 mlynedd, sy’n dangos bod ni’n gwneud gwaith da. Jyst bod y cyfnod yma yn un anodd ar hyn o bryd.”
Image
Robyn Hughes, swyddog hyfforddiant beicio yr elusen
Yn ôl yr elusen, mae’r rhan fwyaf o’u hincwm yn dod o’u gweithgareddau ei hun.
“Mae’n siŵr bod tua 96% o’r pres ’dan ni’n cael yn hunan-gynhaliol. Ond costau craidd sydd yn anodd, ac mae angen i’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau feddwl mwy am y penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud,” meddai Mr Hughes.
Yn ôl cyfarwyddwr yr elusen, Sam Farnfield, nid yw’r sefydliad yn derbyn llawer o gyllid craidd rheolaidd.
“Rydyn ni’n cael swm bach gan Gyngor Caerdydd – tua 3% o gyfanswm costau rhedeg y sefydliad.
“Pe bai cefnogaeth graidd flynyddol y gellid dibynnu arni, byddai hynny’n ein galluogi ni i gynllunio’n well fel sefydliad,” meddai.
Image
Sam Farnfield, cyfarwyddwr yr elusen
Er gwaethaf yr heriau, mae aelodau’n dweud bod y gwasanaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau.
“Rhaid i mi ddweud oedd e’n emosiynol dros ben. O’n i ddim wedi gallu dod yma ers misoedd, ac eto roedd bod allan ar y beic yn y caeau yma yn grêt – wirioneddol grêt,” meddai Liz Reynolds.
Fe ddywedodd Cyngor Caerdydd eu bod nhw’n rhoi arian i’r elusen bob blwyddyn a hefyd yn eu hannog i gynnig am brosiectau lle mae grantiau ar gael – a hynny felly yn incwm ychwanegol, meddai'r awdurdod.