Môn: System barcio newydd yn Niwbwrch wedi trafferthion teithio
Bydd system barcio newydd yn cael ei chyflwyno mewn tri o safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch.
Mae problemau parcio difrifol wedi bod ym mhentref Niwbwrch ar adegau prysur yn ystod y blynyddoedd diwethaf, weth i bobl heidio i draeth Llanddwyn.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gosod systemau adnabod platiau rhif awtomatig (ANPR) yn Niwbwrch, ac hefyd yng Nghoed y Brenin ger Dolgellau a Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth.
Bydd y gwaith yn digwydd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 16 Mawrth a bydd y system newydd yn mynd yn fyw ar 30 Mawrth ac yn cael ei rheoli mewn partneriaeth â First Parking a RingGo.
Taliadau
Gellir gwneud taliadau ar-lein, drwy ap neu gyda cherdyn mewn peiriannau parcio ar y safleoedd a gall ymwelwyr ymestyn eu hamser parcio ar-lein neu drwy ddefnyddio'r ap.
Mae gan ymwelwyr hyd at hanner nos ar y diwrnod y maen nhw’n cyrraedd i dalu am barcio ac mae ffenestr o 30 munud ar ôl cyrraedd lle na chodir tâl arnynt.
Nid oes modd parcio dros nos ar unrhyw safle CNC a gallai’r rhai sy'n cael eu dal wynebu dirwy, yn ôl y sefydliad.
Dywedodd Neil Stoddart, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy CNC: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda First Parking a RingGo i gyflwyno’r system barcio newydd yn y tair cyrchfan boblogaidd hyn.
“Yn ogystal â darparu gwasanaeth gwell i ymwelwyr, bydd y system newydd yn darparu teledu cylch cyfyng a fydd yn cynorthwyo gydag adrodd ac ymchwilio i ymddygiad gwrthgymdeithasol a bydd yn caniatáu inni fonitro a chyhoeddi Hysbysiadau Taliadau Cosb i’r rhai sy’n parcio dros nos yn ein meysydd parcio.
“Bydd yr incwm a gynhyrchir yn cael ei ailfuddsoddi yn ein hasedau hamdden ac amgylcheddol yn yr ardal i’n helpu i gefnogi cymunedau ac ymwelwyr i gysylltu â’r awyr agored a natur.”
Bydd deiliaid Bathodyn Glas yn parhau i allu parcio am ddim ac ni fydd unrhyw newid i drigolion sy'n gymwys i gael parcio am ddim.
