Arestio dyn yn Abertawe ar amheuaeth o fod â gwn ffug yn ei feddiant
Mae Heddlu'r De wedi dweud fod dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o fod â gwn ffug yn ei feddiant yn Abertawe.
Cafodd y dyn 31 oed ei arestio wedi i nifer o "aelodau pryderus" o'r cyhoedd gysylltu gyda'r heddlu ddydd Mawrth.
Aeth swyddogion i Kenilworth Place, West Cross, Abertawe i ymchwilio ychydig ar ôl 12:30.
Mae dyn o West Cross wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod â dryll ffug yn ei feddiant gyda'r bwriad o achosi ofn o drais.
Bydd mwy o blismyn i'w gweld yn ardal West Cross tra bod eu ymholiadau'n parhau meddai llefarydd.
Llun: Google
