S4C yn annog Llywodraeth y DU i ddiogelu cyllid i ddarlledu Cymraeg
Mae S4C wedi galw am sicrwydd bod unrhyw ddiwygiadau i’r broses o osod ffi’r drwydded yn diogelu cyllid y darlledwr yn y dyfodol.
Daw’r alwad mewn ymateb S4C i Adolygiad Siarter y BBC, wrth i'r sianel geisio diogelu ei "safle unigryw o fewn tirwedd cyfryngau’r Deyrnas Unedig".
Mae'r Adolygiad Siarter yn edrych ar ddyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ar draws y Deyrnas Unedig.
Dywedodd S4C ddydd Mawrth ei bod yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth y DU yn y Papur Gwyrdd, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, o "rôl hanfodol S4C fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg annibynnol" a'u hymrwymiad i gyllid digonol a chynaliadwy ar gyfer y darlledwr.
'Goblygiadau gwirioneddol'
Ond mae S4C yn rhybuddio y bydd penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn sgil yr adolygiad yn cael "goblygiadau gwirioneddol" i'r darlledwr.
Mae’r darlledwr wedi galw am sicrwydd cyllid tymor hir y tu hwnt i fis Mawrth 2028, gan ddweud bod angen i'w gyllid gynyddu’n uwch na chwyddiant CPI (Consumer Price Index) er mwyn sicrhau gwasanaeth cyfrwng Cymraeg sy'n goroesi ac yn ffynnu.
Mae S4C wedi dweud bod unrhyw ddiwygiadau i’r broses o bennu ffi’r drwydded yn "diogelu cyllid S4C, ei hannibyniaeth, a’i gallu i gyfrannu at economi greadigol yn y DU."
Dywedodd hefyd y dylai darpariaeth statudol o gynnwys y BBC i S4C gael ei chysylltu â chynnydd CPI er mwyn cynnal ei gwerth mewn termau real, diogelu gwerth a safon cynhyrchu, a chynnal y bartneriaeth.
Mae S4C hefyd yn gofyn i bartneriaeth S4C-BBC iPlayer gael ei hymestyn i mewn i’r cyfnod Siarter nesaf, er mwyn sicrhau amlygrwydd i gynnwys Cymraeg.
'Buddsoddiad, nid cost'
Dywedodd Delyth Evans, Cadeirydd S4C: "Am fwy na 40 mlynedd mae S4C wedi bod yn cysylltu cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt â’r Gymraeg. Rydym yn cynnal y sector creadigol Cymreig, yn datblygu talent, ac yn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n rhan o fywyd bob dydd.
"Mae unrhyw fygythiad i gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus y DU yn fygythiad uniongyrchol i S4C ac i ddarlledu ieithoedd lleiafrifol," meddai.
"Rydym eisiau defnyddio’r cyfle sy'n cael ei gynnig gan yr Adolygiad Siarter i sicrhau dyfodol cyfryngau Cymraeg."
Ychwanegodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C, bod yn rhaid i'r darlledwr "aros yn gynaliadwy, yn hawdd ei darganfod, ac yn ddylanwadol".
"Mae strategaeth Mwy na Sianel Deledu S4C yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaeth cyfrwng Cymraeg digidol-yn-gyntaf sy’n canolbwyntio ar y gynulleidfa ac sy’n ffynnu," meddai.
"Rhaid gweld ein cyllid fel buddsoddiad, nid cost, gan ein galluogi i symud ymlaen yn hyderus, buddsoddi mewn arloesi digidol, darparu cynnwys dylanwadol ar draws genres, a pharhau i wneud cyfraniad ystyrlon i economi greadigol Cymru."
