Joey Barton wedi ei gyhuddo o anafu dyn ger clwb golff
Mae'r cyn-bêl-droediwr Joey Barton wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad ag ymosodiad honedig ger clwb golff.
Yn ôl Heddlu Glannau Mersi, mae'r dyn 43 oed o Widnes wedi ei gyhuddo o glwyfo yn fwriadol.
Mae dyn arall hefyd wedi ei gyhuddo o'r un drosedd.
Mae Gary O’Grady yn 50 ac yn dod o Huyton ar Lannau Mersi.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 21:00 nos Sul ar ôl i ddyn gael anafiadau difrifol i'w wyneb a'i gorff ger clwb golff Huyton a Prescot yn Lerpwl.
Mae'r dyn mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.
Mae disgwyl i Joey Barton a Gary O’Grady ymddangos yn Llys Ynadon Cilgwri brynhawn Mawrth.
