Gorsaf drenau brysuraf Yr Alban yn parhau ar gau yn dilyn tân
Bydd gorsaf drên Glasgow Central yn parhau ar gau ddydd Mawrth yn dilyn y tân dinistriol mewn adeilad cyfagos ddydd Sul.
Mae disgwyl i arolwg diogelwch gael ei gynnal yn yr orsaf yn ddiweddarach, gyda gwasanaethau trên yn yr ardal yn parhau i gael eu heffeithio.
Rhybuddiodd cwmnïau trenau fod disgwyl i'r ymyrraeth barhau am nifer o ddyddiau ar ôl i'r orsaf, sydd yn cael ei hystyried fel yr orsaf drenau brysuraf yn yr Alban gau drwy ddydd Llun.
Mae Network Rail wedi cyhoeddi bydd yr orsaf ar gau ddydd Mawrth, gyda gwasanaethau sy’n gadael a chyrraedd yr orsaf wedi eu gohirio.
Dechreuodd y tân mewn siop fêp ar Stryd yr Union, cyn i'r fflamau ymledu drwy’r adeiladu.
Roedd pedwar injan dân a dau beiriant gyda phlatfform uchel yn parhau i fod yn y lleoliad am 06:30 ddydd Mawrth.
Mae rhannau o'r strydoedd ger yr orsaf yn parhau ar gau, wrth i'r gwasanaethau brys barhau i ddelio gyda’r digwyddiad.
Nid yw swyddogion yn credu fod yr orsaf wedi dioddef unrhyw ddifrod ei hun, ac mae effaith diffodd y tân a’r gwres uchel sydd angen ei asesu.
Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail ddydd Llun: “Bellach mae’r tân dan reolaeth, ac mae’r gwasanaethau brys dal yn y lleoliad ac rydym yn dal i'w cefnogi.
“Bydd yr orsaf yn parhau ar gau heddiw ac yn debygol yfory. Caiff yr amserlenni ar gyfer yr ail agoriad eu cadarnhau unwaith yr ydym yn medru cael mynediad a chynnal y gwiriadau angenrheidiol.
“Mae pob gwasanaeth sy'n gadael a chyrraedd Glasgow wedi cael eu gohirio ar hyn o bryd, dylai teithwyr barhau i ddilyn trefniadau teithio eraill gan ddilyn cyngor gan weithredwyr eu trên.”
Dywedodd ScotRail fod disgwyl i'r trafferthion barhau am sawl diwrnod.
