'Ffrind efo llofrudd': Dyn camera o Gymru yn cwrdd â'i ffrind ar death row ar ôl 20 mlynedd o gyfathrebu
"Dwi methu cyfiawnhau o, dwi'n ffrind efo llofrudd."
20 mlynedd yn ôl, roedd gan ddyn camera o Wrecsam syniad i wneud rhaglen gyda dyn oedd ar death row ond gyda chysylltiadau â Chymru.
Roedd Rhys Williams o Wrecsam yn ddyn camera llawrydd ar y pryd, ac wedi penderfynu ysgrifennu at Roderick Michael Orme oedd ar death row am lofruddio ei gyn gariad.
"Nes i sgwennu ato fo ac o fewn mis neu ddau ges i lythyr yn ôl yn deud bod o’n neis clywed gen i ond o’dd o ddim isho neud rhaglen na unrhyw beth fel’na, ond os o’n i ishe parhau i sgwennu ato fo bod croesi i mi wneud," meddai Rhys wrth Newyddion S4C.
“So nes i jyst dal i sgwennu a ma’n 20 mlynedd erbyn 'wan, 'dan ni ddim yn dweud dim byd mawr o bwys.
“O’n i’n trafod llefydd ‘dan ni ‘di bod, o’dd o arfer teithio lot ar y môr ag o’n i’n teithio lot gyda fy ngwaith, mae cerddoriaeth yn beth mawr i’r ddau o ni.
“Pan o’dd Rees-Zammit yn chwarae i’r Jaguars yn yr NFL yn ddiweddar o’n ni’n trafod hynna lot achos y Jaguars ydi ei dîm o, felly o’n i’n cadw golwg ar be o’dd Zammit yn neud.
“Nes i ffeindio mas be o’dd o di neud, ond odda ni erioed wedi trafod hynna yn y llythyrau, o’n i’n meddwl bod ganddo ddigon ar ei blât yn ei gell heb i fi rhoi guilt trip arall iddo fo."
Mae Orme wedi bod ar death row ers 1993 am lofruddio Lisa Redd, ac mae’n dal i aros am ddyddiad dienyddio.
Mewn rhaglen newydd ar S4C, Fy Ffrind ar Death Row, mae Rhys yn teithio i UDA i ddarganfod mwy am y dyn mae’n ei alw’n ffrind.
Yn ymuno â Rhys ar y daith mae’r newyddiadurwraig Elen Wyn, a’r ddau wedi gweithio gyda’i gilydd ar straeon newyddion ar hyd nifer o flynyddoedd.
Yn ystod y daith mae Rhys yn cyfarfod â Carol, chwaer Lisa ac yn ôl Rhys mae hi'n "flin iawn" ei fod yn ffrindiau gyda llofrudd ei chwaer.
“Roedd Carol yn flin fel tincar ac yn fy nghroesholi, wrth dda rheswm wrth gwrs," meddai.
“O’dd o’n erchyll â deud y gwir. Doedd hi’m yn dallt pam bod fi’n cyfathrebu efo rhywun o’dd 'di lladd ei chwaer hi a dwi’n dallt hynny’n iawn.
“Ag o’n i methu cyfiawnhau pam bo’ fi’n neud hynny chwaith, o’dd o’n swnio’n pathetig.
“O’n i’n gwybod bod o 'di lladd obviously, ag o’n i’n gwybod bod fi’n gallu stopio sgwennu ar y pryd, ond nes i ddim, a dwi’m yn gwybod pam ella. Ella bod o’n annheg i dynnu nôl?"
Dechreuodd y ddau gyfathrebu drwy ysgrifennu llythyrau at ei gilydd ac erbyn hyn mae'r ddau yn cyfathrebu dros y ffôn.
Cyn iddo deithio i weld Roderick Orme, fe benderfynodd Rhys ddatgelu mwy am ei fywyd personol.
“Y mis cyn i mi fynd i weld o nes i ddweud bod i’n ŵr, dad ac yn daid ac roedd hynny’n dipyn o sioc idda fo.
“Es i mewn i’r carchar i weld o a o’dd hynny’n eitha swreal, o’dd ‘na lot o security. Nathon ni jyst trafod, siarad am hwn a’r llall.
“Ma’r boi yn styc mewn cell, mae o’n talu’r pris yn sicr o be dwi wedi gweld. Mae o fewn ers 33 o flynyddoedd 'wan mewn cell bach seis 12 troedfedd sgwâr.
“Sgenai’m lot o ffrindiau basically, ond dwi’n ei gyfri o fel ffrind.
“Dwi ddim yn teimlo bod fi’n cael lot allan ohona fo, ond os alla i helpu’r cradur mewn unrhyw ffordd jyst o ran adloniant o ryw ddisgrifiad neu drwy sgwennu, ma' hynny’n well na 'neud dim.”
