Athrawon ar streic mewn ysgol yng ngogledd Cymru ar ôl cael eu 'rheoli drwy ofn'
Mae athrawon sydd wedi mynd ar streic mewn ysgol yn Sir Conwy yn dweud bod penaethiaid yr ysgol yn eu “rheoli drwy godi ofn” ar staff.
Roedd tua 30 o aelodau staff Ysgol Emrys ap Iwan yn Abergele, gan gynnwys 18 o athrawon, ar y linell biced y tu allan i’r ysgol fore Llun.
Roedd sawl aelod arall o staff yr ysgol wedi penderfynu cefnogi'r streic drwy gadw draw o'u gwaith.
Cafodd y streic ei galw gan undeb NASUWT Cymru yr wythnos ddiwethaf, wedi i aelodau sy’n gweithio yn yr ysgol adrodd eu bod yn wynebu “bwlio parhaus" gan uwch arweinwyr.
Cafodd yr ysgol ei chau’n rhannol ddydd Llun o ganlyniad i’r streic, gyda disgyblion blwyddyn 10 a’r chweched dosbarth yn aros gartref .
Mewn llythyr at rieni disgyblion yr ysgol ddydd Llun, dywedodd y pennaeth, Mr Matt Wildsmith nad oedd tîm arweinwyr yr ysgol na’r bwrdd llywodraethu yn “adnabod yr ysgol na’r ymddygiad sydd yn cael ei ddisgrifio” gan sylwebaeth NASUWT.
Wrth siarad â staff yr ysgol fore llun, fe wnaeth rhai aelodau, nad oedd am gael eu henwi'n gyhoeddus, ddweud eu bod wedi cael profiadau uniongyrchol o aflonyddu a bwlio.
Dywedodd un athro: “Dyma’r peth ola’ dan ni isho neud ond dwi’n meddwl mae'n dangos y neges a bod ni yn fodlon sefyll i fyny dros unrhyw un sydd wedi cael y driniaeth yma yn yr ysgol.
“Mae di cymryd lot i bobl ddod allan heddiw, a dwi’n meddwl bod o’n dangos y cryfder o be mae pobl yn teimlo am bob dim sy’n mynd ymlaen yna.”
‘Gwneud staff da yn sâl’
Dywedodd un athro eu bod wedi profi cyfnod o arsylwi, cwynion ac e-byst, ar ôl gwrthod cyflawni un dasg nad oedd yn rhan o’u swydd.
“Yn y diwedd mi gefais i gyfle i gyfarfod hefo rywun o’r uwch dîm, sydd yn rheolwr llinell, yn deud bo fi ddim yn gallu ‘copio’ efo gwaith - achos bo’ fi di deud na unwaith,” meddai’r athro.
“A dwi’n meddwl nath hynna roi neges glir i fi - paid â deud na i ddim byd. Ers hynny, dwi ddim wedi teimlo’n gyfforddus, dwi’n teimlo’n ofn.
“Dwi hefyd di gweld hyn yn digwydd i lot o bobl eraill, pobl yn sefyll i fyny neu’n cwestiynu pethau, yn cael eu rhoi ar gynlluniau, o ran cwestiynu eu gallu i ddysgu yn ddi-sail, achos bod nhw wedi deud rwbath yn erbyn be mae’r uwch-dîm yn credu.”
Fe ychwanegodd: “Mae’n rhaid i rywbeth newid achos fedrith pethau ddim cario ymlaen fel ‘ma.
“Mae o’n neud staff da yn sâl, pobol sy’n gweithio’n galed ac sy’n caru’r ysgol. Pobl sydd yn driw i’r ysgol ac sydd wedi bod yma ers blynyddoedd. Felly dwi’m yn gwybod be di’r ateb ond ellith pethau ddim aros fel ‘ma nhw.”
Statws y Gymraeg
Fe wnaeth athrawon hefyd godi pryderon ynglŷn â statws y Gymraeg o fewn yr ysgol.
Yn dilyn cyfnod o ailstrwythuro'r llynedd, fe gafodd adran y Gymraeg ei had-drefnu mewn cyfadran gydag adrannau Saesneg, Ieithoedd Modern a’r Cyfryngau.
Cafodd dau bennaeth di-Gymraeg eu gosod ar yr adran newydd.
Daw hyn wedi i ymweliad interim diwethaf yr ysgol gan Estyn amlygu fod angen datblygu darpariaeth y Gymraeg i ddisgyblion, ac mae athrawon yn credu bod yr ailstrwythuro wedi mynd yn groes i’r argymhellion oedd wedi’u rhoi.
“Mae’n codi cwestiynau o’r rhan pwy sy’n llunio cwricwlwm ar gyfer ein plant ni, pwy sydd yn sicrhau bod nhw’n cael profiadau yn y Gymraeg, a Chymreig hefyd. Achos mae o’n fwy na just yr iaith dydi,” ychwanegodd un aelod o staff.
'Sefyllfa sydd angen ei datrys'
Mae’r undeb NASUWT yn dweud fod streiciau o’r math hyn gan athrawon yn “brin eithriadol”.
Dywedodd Neil Butler, Swyddog Cenedlaethol NASUWT yng Nghymru: “Dw i’n falch iawn o’n haelodau, oherwydd maen nhw wedi cydsefyll a dod allan ar y llinell biced, ac mae hynny’n rhywbeth mawr iawn i athrawon ei wneud.
"Dy’n nhw ddim eisiau bod ar streic, maen nhw eisiau bod yn yr ysgol yn dysgu plant. Felly dyma oedd y ‘last resort’.
“Mae’n rhaid i hwn fod yn alwad ar y corff llywodraethwyr a’r awdurdod lleol, eu bod angen iddyn nhw ymyrryd er mwyn datrys yr anghydfod hwn.”
Dywedodd Owain Morgan-Lee, trefnydd y streic ar ran undeb NASUWT, bod staff wedi tynnu yn ôl o streicio ddwywaith yn flaenorol ar ôl gosod dyddiad, yn dilyn trafodaethau cadarnhaol gyda phenaethiaid yr ysgol.
“Yn anffodus, beth sydd wedi digwydd ydy, bob tro maen nhw ‘di mynd yn ôl ar y pethau sydd di gofyn. Yn anffodus, mae pawb di dod allan, mae yna lot o athrawon fan hyn, ac mae'n sefyllfa sydd angen ei datrys.
“Da ni wastad yn barod i drafod i wella'r pethau i'n haelodau, ond maen nhw wedi cyrraedd pwynt rŵan lle maen nhw wedi teimlo does dim byd arall maen nhw'n gallu neud heblaw cerdded allan.”
Ymateb
Mewn llythyr at rieni ddydd Llun, dywedodd Mr Wildsmith bod arweinwyr wedi bod yn "agored i siarad" gyda'r undeb drwy gydol yr anghydfod.
Dywedodd hefyd:
- Nad oedd unrhyw bryderon am "fwlio neu fygythiad" wedi'u codi drwy brosesau ffurfiol yr ysgol.
- Nad oedd yn ymwybodol bod staff yn "cael eu cosbi" am godi pryderon.
- Bod NASUWT wedi gwrthod parhau â thrafodaethau dros yr wythnosau diwethaf er mwyn ceisio "gohirio'r streic,", gan ddweud bod syrjeri wythnosol wedi'i chyflwyno er mwyn i staff gael godi pryderon, yn dilyn argymhelliad gan undeb arall.
"Yr unig beth mae'r arweinyddiaeth ei eisiau yw i'r athrawon addysgu. Rydym am iddynt fod yr athrawon gorau. Bydd gan bob ysgol ddulliau o sicrhau ansawdd a fydd yn cynnwys monitro ansawdd gwersi, gan roi adborth fel y gall staff ddatblygu a gwella dros amser.
"Weithiau, bydd angen sgwrs fwy cadarn ar gyfer rhywfaint o'r adborth hwn, a all fod yn anodd ei glywed. Rydym wedi gwrando ar yr adborth a roddwyd ac wedi egluro pan ofynnwyd cwestiynau gan yr amrywiol undebau am ein prosesau ynglŷn â sicrhau ansawdd ac maent wedi cytuno i'r dulliau hyn."
Fe ychwanegodd: "Rydym wedi ein digalonni gan naws gwrthwynebol datganiad yr NASUWT, ond er hynny, byddwn yn parhau i ddal ein drysau ar agor i NASUWT ail-gysylltu, trwy ein cyfarfodydd undeb ar y cyd a thrwy drafodaethau proffesiynol a chwrtais."
Wrth drafod effaith ailstrwythuro’r ysgol ar y Gymraeg, fe ychwanegodd nad oedd y sgiliau yn ymwneud â rheoli'r gyfadran newydd ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, sy'n cynnwys pynciau Saesneg, Cymraeg ac Ieithoedd Tramor Modern, "yn gysylltiedig â gofynion arbenigol unrhyw bwnc."
"Mae gennym ymrwymiad cryf i ddatblygu ethos Gymraeg yr ysgol. Mae'n rhan ganolog o weledigaeth yr ysgol.
"Eleni, rydym wedi cynyddu nifer y gwersi bob pythefnos y mae'r Gymraeg yn cael ei haddysgu ar lefel TGAU, fel ei bod yn unol â'r cyrsiau TGAU eraill a gynigir yn yr ysgol."
'Diwrnod anodd'
Mewn llythyr wedi'i gyfeirio at rieni ddydd Llun, dywedodd Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Emrys ap Iwan, Mr Anthony Bibby, ei fod yn "ddiwrnod anodd" yn yr ysgol.
"Mae'r ysgol hon wedi wynebu'r un pwysau ag y mae ysgolion ledled Cymru yn delio ag ef. Mae traean yn llai o ddisgyblion yma nag oedd ugain mlynedd yn ôl.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Addysg Conwy: "Byddwn yn parhau i gefnogi arweinwyr a staff yn yr ysgol, yn unol â’n dyletswyddau statudol, er mwyn helpu i sicrhau bod ansawdd yr addysg yn diwallu anghenion y dysgwyr ac yn eu helpu i gyflawni eu potensial."
