Gethin Jones yn 'edrych ymlaen' at roi Cymru ar lwyfan y byd yng Ngemau'r Gymanwlad
Gethin Jones yn 'edrych ymlaen' at roi Cymru ar lwyfan y byd yng Ngemau'r Gymanwlad
Mae Chef de Mission, sef llysgennad tîm Cymru - y cyflwynydd, Gethin Jones yn dweud ei fod yn "edrych ymlaen" at roi Cymru ar lwyfan y byd yng Ngemau'r Gymanwlad.
Fe fydd y gemau yn cael eu cynnal yn Glasgow yn yr Alban dros yr haf.
“Mae Gemau'r Gymanwlad yn rhoi cyfle i’n hathletwyr ni gystadlu ar y llwyfan mwyaf, gyda llygaid y byd arnyn nhw, wrth wisgo'r crys coch," meddai wrth Newyddion S4C.
“Bwriad ni fel tîm, yw gwneud yn siŵr bod yr athletwyr yn gallu gwneud y gorau maen nhw’n gallu ar y diwrnod."
Bydd tîm Cymru yn gobeithio cystadlu ym mhob un o’r 10 camp yn y gemau, ac yn bwriadu anfon mwy na 100 o athletwyr yno.
Er bod 136 diwrnod i fynd tan Gemau'r Gymanwlad, eglurodd bod gweledigaeth a strategaeth tîm Cymru yn edrych ymhellach i’r dyfodol na hynny.
“Mae’r ffocws wedi bod ar yr ieuenctid a'r genhedlaeth nesaf,” meddai.
“Ein bwriad yw ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf a dangos be’ sy’n bosib yn y blynyddoedd i ddod.”
Bydd 23ain Gemau’r Gymanwlad yn cael eu cynnal yn Glasgow rhwng 23 Gorffennaf a 2 Awst 2026.
Yn wreiddiol, roedd y gemau i fod i'w cynnal yn Awstralia, ond camodd y wlad yn ôl oherwydd costau cynyddol cynnal y gemau.
Cytunodd Yr Alban i gynnal y gemau ar raddfa lai er mwyn arbed arian, ac o ganlyniad cafodd 13 camp eu hepgor o’r rhaglen, hoci, criced a rygbi saith bob ochr yn eu plith.
Wrth ymateb i hynny, dywedodd Gethin Jones bod tîm Cymru yn canolbwyntio yn unig ar y campau, a’r cystadlaethau oedd o’u blaenau.
“Rydyn ni’n gobeithio am gemau llwyddiannus i Gymru yn Glasgow. 'Den ni methu rheoli unrhyw beth arall tu hwnt i hwnna.”
'Mwynhau'
Wrth roi cyngor i athletwyr y dyfodol dywedodd Steffan Lloyd, sy’n gobeithio cynrychioli Cymru dros yr haf yn y para seiclo, i beidio rhoi’r gorau iddi pan fydd pethau yn mynd o’i le.
“Peidiwch â bod yn ofnus. Mae pawb wedi cael pethau yn mynd o’u le wrth gystadlu ond da chi byth yn gwybod be sydd yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol, felly mae wastad yn werth trio.”
Ategodd Dan Pitt, a enillodd Bencampwriaethau Bocsio’r Byd o dan 19 oed yn 2024, nad ennill yw’r peth pwysicaf bob tro.
“Mae ennill medalau yn deimlad da ond yr unig beth all unrhyw un ofyn ohonoch chi yw eich bod chi’n rhoi eich holl ymdrech i mewn iddi a bod chi yn mwynhau be 'da chi yn gwneud.”
