‘Bydd y rhyfel yn Iran ar ben yn fuan iawn,’ meddai Trump

Donald Trump

Mae Arlywydd America, Donald Trump, wedi mynnu y bydd y rhyfel yn Iran ar ben “yn fuan iawn”.

Mae ymgyrch filwrol America ac Israel yn Iran yn parhau, gyda ffrwydradau yn cael eu clywed dros nos yn y brifddinas, Tehran.

Dywedodd ffynhonnell o luoedd Israel bod labordai niwclear wedi eu targedu yno dros nos.

Yn ôl adroddiadau yn Iran, fe gafodd pum person eu lladd mewn ymosodiad awyr gan America ac Israel a wnaeth daro adeilad preswyl yn ninas Arak, yng ngorllewin y wlad.

Ond wrth i brisiau olew godi i’r lefelau uchaf ers pedair blynedd, dywedodd Mr Trump mewn cynhadledd ddydd Llun y byddai’r ymgyrch drosodd “yn fuan iawn”, gan fynnu mai “ymgyrch filwrol tymor byr” oedd yn cael ei chynnal ar hyn o bryd.

Dywedodd bod gan America ragor o dargedau yn Iran, gan ychwanegu, “Rydym wedi ennill mewn sawl ffordd, ond nid ydym wedi ennill digon.”

Ychwanegodd bod yr ymgyrch wedi bod yn “lwyddiant mawr” ond ei fod eisiau sicrhau nad oedd gan Iran y gallu i greu arfau niwclear am “gyfnod hir iawn”.

Daeth bygythiad y byddai’n taro Iran “20 gwaith yn galetach” pe byddai tanceri olew yng Nghulfor Hormuz yn cael eu stopio.

Wrth ymateb, fe ddywedodd Gwarchodlu Chwyldroadol Iran eu bod yn tanio rhagor o daflegrau, gan wrthod awgrym bod eu system daflegrau wedi’i dinistrio.

Mae ymosodiadau gan Iran ar wledydd cyfagos yn y Dwyrain Canol wedi parhau, gyda dronau a thaflegrau yn taro Kuwait, Bahrain a Saudi Arabia.

Mae’r awdurdodau yn Israel yn dweud bod 191 o bobl, gan gynnwys milwyr a sifiliaid, wedi’u cludo i’r ysbyty yn y wlad dros y 24 awr ddiwethaf o ganlyniad i’r rhyfel.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.