Powys: Cyngor i drafod penderfyniad i rannu ysgol yn ddwy er mwyn creu ysgol Gymraeg
Fe fydd penderfyniad i greu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ym Mhowys drwy rannu ysgol yn ddwy yn cael ei drafod ymhellach wedi i’r cynllun gael ei alw i mewn gan gynghorydd.
Fis diwethaf, fe wnaeth Cabinet Cyngor Sir Powys gymeradwyo cynllun i hollti Ysgol Calon Cymru yn ddwy.
Yn ôl y cynllun, byddai’r campws yn Llanfair-ym-Muallt yn cael ei drawsnewid yn ysgol gyfrwng Cymraeg i ddisgyblion oedran ysgol gynradd ac uwchradd, tra y byddai adeilad newydd yn cael ei adeiladu ar y campws yn Llandrindod ar gyfer ysgol cyfrwng Saesneg
Y bwriad yw i’r cynllun cael ei weithredu mewn cymalau, gyda darpariaeth Gymraeg yn Llanfair-ym-Muallt yn cychwyn fis Medi 2027, a darpariaeth Saesneg yn Llandrindod erbyn Medi 2029 ar y cynharaf.
Fe fyddai hyn yn golygu bod disgyblion ffrwd Saesneg yn derbyn eu haddysg yn Llanfair-ym-Muallt tra bod yr adeilad newydd yn cael ei hadeiladu.
Cafodd pryderon eu codi dros y rhan yma o’r cynllun, gyda rhai hefyd yn cwestiynu sut y byddai’r ysgol yn denu disgyblion ac athrawon i’r ysgol Gymraeg.
Ond wedi i’r cabinet gymeradwyo’r cynllun, fe fydd y penderfyniad yn cael ei graffu ymhellach ar ôl i’r Cynghorydd Gwynfor Thomas, sef pennaeth pwyllgor craffu dysgu a sgiliau’r Cyngor, wneud cais i alw’r cynllun i mewn ar ddydd Iau 5 Mawrth.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: “Y rheswm y tu ôl i’r galw i mewn oedd bod y penderfyniad yn groes i’r fframwaith polisi, nad oedd y cabinet wedi dilyn gweithdrefnau priodol, ac nad oedd y cabinet wedi dilyn y rhwymedigaethau cyfreithiol ynghylch rheoliadau a chanllawiau statudol sy’n llywodraethu gweithredoedd y cyngor.”
Mae aelodau’r pwyllgor dysgu a sgiliau wedi mynegi pryderon ynglŷn â'r cynllun ers peth amser.
Fis Hydref y llynedd, mewn cam cynharach o’r broses, roedd y pwyllgor wedi ystyried galw’r cynllun i mewn, gan ei bod yn ymddangos bod “dim wedi newid” yn y ffordd yr oedd y cabinet a swyddogion addysg yn bwrw ymlaen â’r cynnig ar ôl derbyn canlyniadau ymgynghoriad.
Roedd y cynllun i hollti’r ysgol yn ddwy wedi derbyn ychydig iawn o gefnogaeth yn lleol, gyda 35 o wrthwynebiadau wedi’u cyflwyno i’r cyngor yn ystod y cyfnod cyfreithiol ar gyfer gwrthwynebiadau ffurfiol.