ASau yn pleidleisio yn erbyn gwaharddiad cyfryngau cymdeithasol i blant dan 16 oed
Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio yn erbyn gwaharddiad cyfryngau cymdeithasol i blant dan 16 oed.
Cafodd y gwaharddiad ei gefnogi gan aelodau'r Tŷ'r Arglwyddi wedi galwadau gan ymgyrchwyr gan gynnwys yr actor Hugh Grant.
Ond nos Lun fe wnaeth ASau yn San Steffan bleidleisio yn erbyn y gyfraith o 307 i 173, gyda mwyafrif o 134 yn erbyn y gwaharddiad.
Mae cefnogwyr y gwaharddiad, sydd eisoes mewn grym yn Awstralia, yn dweud bod rhieni mewn "sefyllfa amhosib" wrth geisio amddiffyn eu plant rhag niwed ar-lein.
Tra bod eraill, gan gynnwys elusen y NSPCC, yn rhybuddio y gallai gwaharddiad arwain at blant chwilio am gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol mewn mannau tywyll.
Er bod ASau wedi pleidleisio yn erbyn y gwaharddiad, fe allai'r gyfraith dal ddod i rym wedi i aelodau San Steffan gefnogi cais i roi mwy o bwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol.
'Hynod siomedig'
Mae hynny'n golygu y gallai Liz Kendall, y Gweinidog Gwyddoniaeth, "gyfyngu neu wahardd plant o oedrannau penodol rhag cael mynediad at wasanaethau cyfryngau cymdeithasol a bots sgwrsio”.
Fe gafodd y bil ei gyflwyno gan yr Arglwydd Nash o'r Blaid Geidwadol, ac fe ddywedodd bod colli'r bleidlais yn "hynod siomedig."
Wrth siarad yn San Steffan, dywedodd y Gweinidog Addysg, Olivia Bailey bod y Llywodraeth Lafur eisoes wedi lansio ymgynghoriad i geisio llunio'r "camau nesaf" i ddiogelu plant ar-lein.
"Mae nifer o rieni ac ymgyrchwyr wedi galw am waharddiad ar gyfryngau cymdeithasol i blant dan 16 oed.
"Mae eraill, gan gynnwys elusennau plant, wedi rhybuddio y byddai gwaharddiad yn arwain plant tuag at gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol mewn mannau tywyll neu adael plant yn eu harddegau yn y tywyllwch pan maen nhw'n troi'n 17.
"Oherwydd hyn, roedd y llywodraeth wedi lansio ymgynghoriad wythnos ddiwethaf i geisio barn er mwyn helpu i lunio ein camau nesaf a sicrhau y gall plant dyfu i fyny gyda pherthynas fwy diogel, iachach a mwy cyfoethog gyda’r byd ar-lein.”
Bydd yr ymgynghoriad yn edrych ar a ddylai platfformau cyfryngau cymdeithasol gynnwys isafswm oedran ac os ddylai platfformau beidio cynnwys gosodiad chwarae cynnwys yn awtomatig.
Bydd y Mesur Lles Plant ac Ysgolion nawr yn dychwelyd i Dŷ’r Arglwyddi i gael ei ystyried ymhellach.
Fe fydd y mesur yn dod i rym os fydd yn cael ei gytuno gan Dŷ’r Arglwyddi a gan ASau yn San Steffan.
Pe bai hynny'n digwydd, bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau “asesu amgylchedd cartref y plentyn o fewn 15 diwrnod” iddynt gael eu rhestru ar gofrestr o blant sydd ddim yn yr ysgol.
Mae hyn yn rhan o ymateb y Llywodraeth i farwolaeth Sara Sharif, 10 oed, a gafodd ei llofruddio gan ei thad Urfan Sharif a’i llysfam Beinash Batool yn 2023.
