Cyhuddo dyn o lofruddio Ian Huntley yn y carchar
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ladd llofrudd Soham, Ian Huntley, yn y carchar.
Mewn datganiad fore dydd Mawrth, dywedodd Heddlu Durham fod Anthony Russell, 43 oed, o garchar HMP Frankland wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Huntley, oedd yn 52 oed.
Cafodd Huntley ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad mewn gweithdy yn y carchar ar fore Iau, 26 Chwefror.
Roedd wedi cael ei gadw ar beiriant cynnal bywyd ar ôl cael ei daro dro ar ôl tro ar ei ben gyda bar metel.
Bu farw yn yr ysbyty ar 7 Mawrth.
Roedd wedi ei ddedfrydu i oes yn y carchar am lofruddio Holly Wells a Jessica Chapman, y ddwy yn 10 oed, yn 2002.
Dywedodd Christopher Atkinson o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Mae ein herlynwyr wedi gweithio i sefydlu bod digon o dystiolaeth i ddwyn yr achos i’r llys a’i bod er budd y cyhoedd i ddwyn achos troseddol.
“Rydym wedi gweithio’n agos gyda Heddlu Durham wrth iddynt gynnal eu hymchwiliad.”
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron ei bod yn “hanfodol” nad oedd unrhyw “adrodd, sylwebaeth na rhannu gwybodaeth ar-lein a allai ragfarnu’r achos hwn mewn unrhyw ffordd”.
Llofruddiodd Ian Huntley Holly a Jessica ar ôl iddyn nhw adael barbeciw teuluol i brynu melysion yn Soham ar Awst 4 2002.
Gadawodd eu cyrff mewn ffos 10 milltir i ffwrdd.
Ni chawsant eu darganfod am 13 diwrnod, gan sbarduno ymgyrch chwilio a oedd yn cynnwys cannoedd o swyddogion yr heddlu.
Ar y pryd, roedd Huntley yn byw gyda Maxine Carr oedd yn gynorthwyydd dysgu yn ysgol gynradd Holly a Jessica.
Rhoddodd Carr alibi ffug i Huntley ac fe gafodd ei charcharu am 21 mis am wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae hi bellach yn byw'n gudd o dan enw newydd.
