Sir Ddinbych: Dyn wedi'i gyhuddo o herwgipio ac ymosod ar ddynes
Mae dyn 26 oed wedi’i gyhuddo o herwgipio ac ymosod ar ddynes.
Fe wnaeth Michael David Rogers o Denbigh Circle, Bae Cinmel, ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher.
Cafodd ei arestio gan swyddogion Heddlu’r Gogledd ar 29 Rhagfyr yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad ar Ffordd Derwen yn y Rhyl.
Cafodd Rogers ei gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar ddydd Gwener 30 Ionawr.