Mam dyn ifanc o Wynedd a fu farw mewn gwrthdrawiad yn 2023 yn 'parhau i frwydro am atebion'

Mam dyn ifanc o Wynedd a fu farw mewn gwrthdrawiad yn 2023 yn 'parhau i frwydro am atebion'

Mae mam dyn ifanc o Wynedd a fu farw mewn gwrthdrawiad yn 2023 yn dweud na fydd hi'n rhoi'r gorau i frwydro am atebion i'w farwolaeth wrth i'r teulu barhau i aros am gwest llawn. 

Bydd ffrindiau Joshua Lloyd Roberts yn gwneud her er cof amdano'r wythnos hon, gan gerdded o Stadiwm Everton i Stadiwm yr Oval yng Nghaernarfon - dau le oedd yn agos at ei galon. 

Bu farw Josh yn 19 oed mewn gwrthdrawiad yng Nghaeathro ger Caernarfon ar 2 Mehefin 2023.

Roedd yn wreiddiol o Gaernarfon, ac yn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac fe fyddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 23 oed ar 28 Awst. 

Nid yw'r cwest llawn i farwolaeth Josh wedi ei gynnal eto. 

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, fe ddywedodd mam Joshua Lloyd Roberts, Melanie Tookey: "Ma’ ‘di bod yn three years hir iawn a fel ti’n gw’bod, ‘dan ni dal yn gwitchiad i’r cwest, sydd yn rili anodd arna ni, ond efo’r hogia yn gwneud y fath beth yma, mae o’n cadw ni i fynd.

"Dwi ddim yn mynd i stopio cwffio, achos ma’ Josh yn haeddu cyfiawnder, a dwi’n meddwl jyst efo be’ ma’r hogia’n neud rŵan, be’ sy’ ‘di bod yn mynd ymlaen am y tair blynedd efo bob un elusen, a’r marathons ma’ nhw ‘di neud, ag y stand ‘ma, mae o  angen cyfiawnder.

"Na’i ddim stopio cwffio i gael hynny, achos Mam fo dwi, a Mam fo fydda i am byth."

Image
Josh
Bu farw Josh yn 19 oed mewn gwrthdrawiad ger Caernarfon ar 2 Mehefin 2023.

Roedd Josh yn gefnogwr brwd o glwb pêl-droed Everton, ac fe fydd criw o'i ffrindiau yn cerdded o Stadiwm Hill Dickinson yn Lerpwl ddydd Iau, gyda'r bwriad o gyrraedd Stadiwm yr Oval yng Nghaernarfon ddydd Sul.

Dywedodd un o drefnwyr yr her ddiweddaraf er cof am Josh, Iwan Wyn Bohana: "O’dd Josh yn berson clên, o’dd o’n gyfeillgar, o’dd o’n ffrind i bawb fel ‘dach chi’n gweld efo faint o gefnogaeth ma’r her ‘di gael, o’dd o’n rywun o’dd yn licio mynd allan am beint, mynd allan i watchiad Caernarfon, o’dd o’n chwara' ffwtbol i Bontnewydd a o’dd ffwtbol yn agos iawn i’w galon o.

"Felly yr her ydi fyddan ni’n cychwyn yn cae newydd Everton felly yn yr Hill Dickinson Stadium ar y bora dydd Iau, a ‘dan ni’n gobeithio cerddad ac yn gorffan yn yr Oval yng Nghaernarfon ar y dydd Sul."

Fe gafodd gwrandawiad cyn-cwest yn dilyn marwolaeth Josh ei gynnal ym mis Tachwedd 2024, ac fe gafodd y teulu wybod fod disgwyl i'r cwest llawn gael ei gynnal ym mis Chwefror neu Fawrth 2025. 

"Na’th y Chwefror a Mawrth pasio... a ‘dan ni dal i ddisgwyl," ychwanegodd Ms Tookey. 

Image
Mam Josh, Melanie Tookey, a'i frawd 12 oed, Ronnie.
Mam Josh, Melanie Tookey, a'i frawd 12 oed, Roni.

Wrth siarad â Newyddion S4C ddydd Iau diwethaf, fe ddywedodd Ms Tookey fod y teulu wedi cael gwybod fod yna sôn am ail wrandawiad cyn-cwest, ond nad oedden nhw'n gwybod pryd y byddai hwnnw yn cael ei gynnal. 

Ers hynny, mae Ms Tookey wedi cael gwybod y bydd ail wrandawiad cyn-cwest yn cael ei gynnal ar 23 Medi. 

"Mae o’n rwbath mor  sensitif i deuluoedd, dwi’m yn gweld pam bod teuluoedd yn gorfod chaseio ar ôl rwbath fel hyn lle ma’ nhw‘n mynd  trw’ gymaint yn barod," meddai. 

Dywedodd llefarydd ar ran Crwner Ei Fawrhydi dros Ogledd Cymru (Dwyrain a Chanol): "Fe fyddai’n amhriodol i’r Crwner wneud sylw yn ymwneud ag ymchwiliad parhaus."

Image
Ffrindiau Josh
Fe fydd yr her gerdded yn dechrau ddydd Iau ac yn gorffen ddydd Sul.

Mae'r golled wedi arwain at ffrindiau Josh, yn ardal Caernarfon a Chaerdydd, yn dod ynghyd i gofio amdano. 

"‘Sa’n edrych lawr yn gwenu os ‘sa fo’n gw‘bod bo’ ni dal yn neud y stwff yma," ychwanegodd Iwan.

"Bo’ ni dal yn dod at ein gilydd a bo’ ni gyd yn ffrindia mor agos dal i fod, bo’ ffrindia coleg  a ffrindia adra hefyd yn ffrindia agos i’w gilydd.

"Dwi’n meddwl ‘sa fo’n  hapus gweld hynna a dwi’n meddwl bysa fo’n edrych lawr yn gweld ni’n gorffan yn yr Oval dydd Sul, dwi’n meddwl ‘sa fo’n hapus iawn."

Ychwanegodd brawd Josh, Roni, sydd yn 12 oed: "O'dd Josh yn berson hapus, neis a hardworking, a jyst yn neis i pawb.

"Dwi’n gwisgo top Everton ‘chos o’dd Josh yn big supporter Everton. Dwi’n rili prowd ‘chos brawd fi ‘dio a ma’ nhw’n cefnogi fo."

Roedd Josh, a oedd yn cael ei adnabod gan lawer fel 'Pickle', yn gefnogwr selog o Gaernarfon ac Everton, a dyna’r rheswm dros ddewis y mannau cychwyn a gorffen.

Image
Ffrindiau Josh
Roedd Josh yn wreiddiol o Gaernarfon, ac yn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. 

Bydd yr her yn codi arian at dri achos sy’n agos at galonnau’r criw o ffrindiau. Gôl Cymru, Clwb Ieuenctid Porthi Dre a Two Pints Deep.

Dywedodd ffrindiau Josh sy'n trefnu'r her fod Gôl Cymru a Phorthi Dre yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl ifanc yn y gymuned yng Nghaernarfon.

Mae Two Pints Deep yn annog dynion i siarad yn agored am eu hiechyd meddwl ac yn ceisio creu cyfleoedd iddyn nhw allu gwneud hynny, ac wedi bod o gymorth i'r criw ers colli Josh. 

Ychwanegodd Ms Tookey fod yr her yn golygu llawer i deulu Josh. 

"Mae o jyst yn lyfli gweld nhw yn invested yn cadw Josh yn fyw, ei enw fo ‘lly, a dangos faint o argraff  na’th o arnyn nhw.

"Nathon ni ddeud yn y diwrnod nathon ni ffarwelio efo Josh, nath Abbie [chwaer Josh] ddeud bo' ni 'di colli Josh, ond 'dan ni di gainio 40 o hogiau sydd yn rili annwyl ac yn meddwl amdana ni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.