Ynys Môn: Arestio dyn ar ôl i gerbyd deithio i’r cyfeiriad anghywir ar yr A55

Yr A55 ger Ceargybi

Mae’r heddlu wedi arestio dyn ar ôl i gerbyd deithio i’r cyfeiriad anghywir ar yr A55 ar Ynys Môn nos Lun.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi llwyddo i stopio’r cerbyd a bod yr A55 wedi’i chau dros dro.

Cyn i’r cerbyd fynd ar yr A55, cafodd person ei daro oddi ar feic ar Ffordd Llundain yng Nghaergybi.

Cafodd y person anafiadau nad oedd yn peryglu eu bywyd ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty. Cafodd nifer o gerbydau wedi’u parcio eu difrodi hefyd.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw'n "cydnabod yr emosiynau y gall y digwyddiad hwn eu codi" yn sgil y gwrthdrawiad ar ffordd yr A66 yng ngogledd Lloegr ddydd Sadwrn, a laddodd saith o bobl, dau blismon yn eu plith. 

Roedd car wedi bod yn teithio i'r cyfeiriad anghywir ar hyd y ffordd bryd hynny.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y swyddogion a ddaeth ar draws y cerbyd ar Ynys Môn yn teithio ar ochr gywir y ffordd ac fe wnaethon nhw lwyddo i’w stopio’n ddiogel.

Mae'r dyn a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac mae’n parhau yn nalfa’r heddlu wrth i ymholiadau barhau,medden nhw.

Cafodd yr A55 ei chau dros dro tra oedd swyddogion yn delio â’r digwyddiad ac yn sicrhau bod y ffordd yn ddiogel i’w hailagor.

“Gallwn gadarnhau na fu unrhyw wrthdrawiadau o ganlyniad i’r cerbyd yn teithio i’r cyfeiriad anghywir ar yr A55,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

“Mae ymholiadau ynghylch amgylchiadau’r digwyddiad yn parhau ac nid oes rhagor o fanylion ar gael ar hyn o bryd.

“O ystyried y digwyddiadau diweddar yn ymwneud â Heddlu Cleveland, mae Heddlu Gogledd Cymru yn cydnabod yr emosiynau y gall y digwyddiad hwn eu codi.

“Hoffem estyn ein cydymdeimlad at bawb sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiadau trasig hynny.”

Llun: Camera Traffig Cymru o'r A55 ger Caergybi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.