Archaeolegwyr i gloddio safle'r fila Rufeinig cyntaf yng ngogledd Cymru

Llun: Prifysgol Caer
Yr Orsedd Wrecsam

Mae archaeolegwyr yn paratoi i gloddio rhannau newydd o safle'r fila Rufeinig gyntaf i gael ei ddarganfod yng ngogledd Cymru.

Cafodd y safle yn ardal Yr Orsedd ger Wrecsam ei archwilio ar ôl i fetel ingot gael ei ddarganfod gan berson â synhwyrydd metel yn 2019.

Roedd archwiliadau pellach o'r ardal gan Brifysgol Caer ac Archaeological Survey West wedi canfod lloriau Rhufeinig, cerameg ac arteffactau eraill ar y safle, gan awgrymu bod adeilad Rhufeinig "o statws uchel" gerllaw.

Ers hynny mae'r safle wedi ei gadarnhau fel cyfadeilad fila Rufeinig, ac fe allai'r darganfyddiad ail-lunio dealltwriaeth archeolegwyr o fywyd cefn gwlad Rhufeinig yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Fis nesaf bydd archaeolegwyr o DigVentures a Phrifysgol Caer yn archwilio ardaloedd newydd o'r fila, gan asesu sut y datblygodd, sut oedd pobl yn byw a gweithio yno a sut y newidiodd dros amser.

Image
Y safle yn Yr Orsedd Wrecsam. Llun: Prifysgol Caer
Y safle yn Yr Orsedd, Wrecsam. Llun: Prifysgol Caer

Mae'r gwaith yn cael ei wneud ar y cyd ag Amgueddfa Wrecsam, PAS Cymru, Heneb a'r Portable Antiquities Scheme.

Hyd yma, mae'r gwaith cloddio wedi canfod crochenwaith, darnau arian, esgyrn anifeiliaid a deunyddiau adeiladu.

Ychwanegodd Prifysgol Caer fod y cloddiadau yn awgrymu bod y fila wedi'i chysylltu â rhwydweithiau masnach Rhufeinig ehangach, gyda chrochenwaith wedi'i fewnforio, deunyddiau adeiladu o ansawdd uchel a systemau gwresogi soffistigedig yn dangos bod ei thrigolion yn gyfoethog.

Mae sawl ardal o'r fila yn parhau heb ei harchwilio, gan olygu bod sawl cwestiwn heb ei ateb am ei hanes.

Gobaith y prosiect yw canfod mwy am gynllun y fila, sut y cafodd yr ystafelloedd eu defnyddio, pryd y cawsant eu hadeiladu a pha mor hir y bu pobl yn byw yno.

Dywedodd Dr Caroline Pudney, Uwch Ddarlithydd mewn Archaeoleg ym Mhrifysgol Caer, fod y prosiect yn gyfle "i bobl gysylltu â'u hanes a'u treftadaeth leol".

"Mae'n wych dychwelyd i'r Orsedd a pharhau i archwilio'r fila Rufeinig gyntaf yng ngogledd Cymru," meddai.

"Mae gweithio ochr yn ochr â DigVentures a chroesawu'r cyhoedd i fod yn rhan o'r daith yn ein galluogi i ddyfnhau ein dealltwriaeth o'r safle tra'n ysbrydoli mwy o bobl i gysylltu â'u hanes a'u treftadaeth leol."



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.