Carchar am 25 mlynedd i ddyn am dreisio plentyn yn ardal Rhydaman

Jordan Richards

Mae dyn 35 oed o Kidderminster, Sir Gaerwrangon, wedi ei garcharu am 25 mlynedd am dreisio plentyn yn ardal Rhydaman, Sir Gâr. 

Ar ôl pledio'n ddieuog yn wreiddiol yn Llys y Goron Abertawe, newidiodd Jordan Richards ei ble ar ail ddiwrnod yr achos. 

Plediodd yn euog i bob un o'r cyhuddiadau, sef 36 o droseddau rhyw yn erbyn yr un ferch rhwng 2012 a 2016, gyda 31 o'r achosion hynny yn dreisio. 

Cyfaddefodd hefyd iddo fod â mwy na 600 o ddelweddau anweddus o'r plentyn yn ei feddiant. 

Dywedodd y barnwr bod troseddau Richards yn ‘greulon' ac na fydd effaith hynny fyth yn diflannu iddi na'i theulu.  

Cafodd Richards ddedfryd o garchar am 25 mlynedd, sef  21 mlynedd o dan glo a chyfnod estynedig o 4 blynedd.  

Dywedodd y Ditectif Ringyll Carl Pocock o Heddlu Dyfed-Powys: "Hoffwn gymryd y cyfle i bwysleisio dewrder y ferch wynebodd y gamdriniaeth hon, wrth i Richards ei chamdrin yn rhywiol drwy godi ofn arni a cheisio ei rheoli. 

"Mae'n cymryd dewrder eithriadol i ddod ymlaen a rhoi tystiolaeth. 

"Diolch i hynny, bydd Jordan Richards yn treulio cyfnod sylweddol mewn carchar.

"Rydw i wir yn gobeithio y bydd moddi iddi ddod o hyd i dawelwch meddwl ac y gall symud ymlaen gyda'i bywyd."  

'Goroeswyr' 

Mae'r ddynes wedi croesawu'r ddedfryd a nododd ei bod yn dymuno rhannu'r neges isod:

"Mae'r ymchwiliad wedi bod yn hir, a heb os wedi bod yn anodd i fi. Rydw i eisiau diolch i Heddlu Dyfed-Powys am eu hamser, ymroddiad a'u cefnogaeth gydol y broses, ac yn bwysicach na dim, am wneud i mi deimlo'n ddiogel."

Mae hi hefyd yn annog eraill yn yr un sefyllfa â hi i gysylltu â'r awdurdodau.    

"Nid yw'r achos wedi bod yn hawdd o gwbl, ond byddwn yn annog bobl sydd eto i wneud hynny, i gysylltu â'r heddlu, gan y byddwch yn cael eich cefnogi, ac fe gewch eich clywed." 

"Dydyn ni ddim yn ddioddefwyr, ry'n ni'n oroeswyr," meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.