Dyn yn parhau yn y ddalfa wedi i dacsi gael ei yrru i'r cyfeiriad anghywir ar yr A55
Mae dyn yn parhau yn y ddalfa wedi i dacsi oedd wedi ei ddwyn gael ei yrru i'r cyfeiriad anghywir ar ffordd yr A55 ar Ynys Môn.
Mewn diweddariad bnawn dydd Mawrth, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau bod tacsi wedi ei ddwyn yng Nghaergybi am tua 19:30 nos Lun.
Cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o nifer o droseddau, gan gynnwys dwyn cerbyd, gyrru'n beryglus a methu â darparu sampl i'r heddlu.
Fe wnaeth swyddogion lwyddo i stopio’r tacsi rhwng Rhosneigr a Rhostrehwfa ac roedd yr A55 ar gau am gyfnod.
Cyn i’r cerbyd fynd ar yr A55, cafodd person ei daro oddi ar ei feic ar Ffordd Llundain yng Nghaergybi.
Cafodd y person anafiadau sydd ddim wedi peryglu ei fywyd ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty.
Cafodd nifer o gerbydau oedd wedi’u parcio eu difrodi ar yr un stryd hefyd.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw'n "cydnabod yr emosiynau y gall y digwyddiad hwn eu codi" yn sgil y gwrthdrawiad ar ffordd yr A66 yng ngogledd Lloegr ddydd Sadwrn, a laddodd saith o bobl, gyda dau blismon yn eu plith.
Roedd y car hwnnw wedi bod yn teithio i'r cyfeiriad anghywir ar hyd y ffordd bryd hynny.
'Eithriadol o ddychrynllyd'
Mewn datganiad ar Facebook ddydd Mawrth, dywedodd perchennog cwmni tacsis Tacsi Zoe ar yr ynys fod un o gerbydau'r cwmni wedi cael ei ddwyn, ond nad oedd un o'i gyrwyr hi'n rhan o'r digwyddiad ar yr A55:
"Dwi wedi cael fy nghlymu i mewn i'r digwyddiad, ac fe fyddai llawer yn cytuno bod y sefyllfa gyfan wedi bod yn un eithriadol o ddychrynllyd a thrawmatig.
"Byddwn i'n hoff o ddweud yn glir NAD un o'm gyrwyr i sy'n gyfrifol am hyn.
"Diolch yn fawr i holl swyddogion yr heddlu am eu hymateb cyflym i'r sefyllfa," meddai.
'Ymchwiliad yn parhau'
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Nick Evans o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein hymchwiliad i'r hyn a ddigwyddodd yng Nghaergybi ac ar yr A55 nos Lun yn parhau.
“Byddwn yn annog unrhyw un a welodd unrhyw ran o'r digwyddiad, neu sydd â lluniau perthnasol o gamerau cylch cyfyng neu ffôn symudol, i gysylltu â ni drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod O140476.
“Rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth rydym wedi ei dderbyn gan y cyhoedd hyd yn hyn, ac am y sylwadau cadarnhaol ynghylch gweithredoedd ein swyddogion, a ddaeth â'r digwyddiad i ddiweddglo diogel."
Ychwanegodd: “Mae'n amlwg i bob un ohonom, yn enwedig yng ngoleuni'r digwyddiadau trasig yn Cleveland, pa mor ddifrifol oedd canlyniadau posibl y digwyddiad hwn. Rwy'n hynod falch o'r dewrder a'r proffesiynoldeb a ddangoswyd gan ein swyddogion wrth ddatrys sefyllfa heriol iawn yn ddiogel.
“Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau drwy ein gwefan a 'n sianeli cyfryngau cymdeithasol pan fydd yn briodol gwneud hynny."
Llun: Google