'Tân sylweddol' ar fwrdd llong yn Nociau Caerdydd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymateb i dân sylweddol ar ffwrdd llong yng Nghaerdydd.
Dywedodd y gwasanaeth fod criwiau ac adnoddau arbenigol gan gynnwys cychod achub a drôn yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â'r tân yn Nociau y Frenhines Alexandra yn y brifddinas.
Mae'r llong yn un fawr sy'n cludo tua 20,000 o dunelli o fetel sgrap.
Mae pob aelod o griw y llong yn ddiogel yn ôl y gwasanaeth tân.
Ar hyn o bryd, nid oes yna berygl uniongyrchol i'r cyhoedd ond mae'r gwasanaeth tân yn rhybuddio y gallai'r ymgych i reoli'r digwyddiad arwain at ryddhau mwg sylweddol am gyfnod, yn benodol yn ardaloedd Bae Caerdydd, canol dinas Caerdydd a Phenarth.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori unrhyw un sy'n gweithio neu'n byw yn yr ardaloedd hyn i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau.
Ychwanegodd y corff y dylid agor ffenestri a drysau i helpu i oeri'r cartref unwaith y mae'r mwg wedi clirio a phan mae'n ddiogel i wneud hynny.
Mae'r gwasaaneth tân hefyd yn gofyn i aelodau o'r cyhoedd i beidio â hedfan dronau uwchben y digwyddiad oherwydd y gallai hyn effeithio ar ddiogelwch y gweithwyr brys.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Associated British Ports, sy'n berchen ar y safle: "Mae Associated British Ports, perchnogion a gweithredwyr Porthladd Caerdydd, yn parhau i gefnogi'r ymateb brys i dân sy'n ymwneud â metel sgrap ar long yn y porthladd.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac asiantaethau eraill wrth iddynt reoli'r digwyddiad. Rydym yn annog pobl i ddilyn cyngor y gwasanaethau brys ac i osgoi'r ardal tra bo'r gwaith yn parhau."