Pump arall wedi’u harestio yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A66

Cleveland

Mae pump person arall wedi’u harestio yn rhan o’r ymchwiliad i’r digwyddiadau arweiniodd at wrthdrawiad ar yr A66 a laddodd saith o bobl, gan gynnwys dau heddwas.

Mae’r arestiadau diweddaraf yn dod â chyfanswm y bobl sydd wedi’u harestio yn dilyn y gwrthdrawiad ger Middlesbrough i 17.

Cafodd y cwnstabliaid Matthew Blades, 37 oed, a Tom Clough, 38 oed, eu lladd pan gafodd Volkswagen Passat ei yrru i’r cyfeiriad anghywir ar hyd y ffordd ddeuol cyn taro eu cerbyd yn oriau mân fore Sadwrn.

Bu farw’r pump oedd yn y Passat hefyd.

Dywedodd Heddlu Cleveland ddydd Mawrth eu bod wedi arestio pump arall gyda chymorth yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol y Gogledd-ddwyrain.

Cafodd bachgen 16 oed a dynion 18 a 21 oed eu harestio ar amheuaeth o gymryd rhan mewn grŵp troseddau cyfundrefnol.

Cafodd person 55 oed ei arestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, a pherson 23 oed ei arestio ar amheuaeth o fygwth lladd.

Mae dau o’r 12 o bobl gafodd eu harestio ynghynt bellach wedi ymddangos yn y llys.

Fe wnaeth Kai Beattie, 19 oed, o Foxrush Court, Redcar, ymddangos yn Llys Ynadon Teesside wedi’i gyhuddo o feddu ar ddryll gyda’r bwriad o beryglu bywyd.

Cafodd Cameron George, 26 oed, o Micklow Close, Redcar, ei gadw yn y ddalfa i ymddangos yn Llys y Goron Teesside ar 21 Medi, wedi’i gyhuddo o droseddau cyffuriau a meddu ar eiddo troseddol.

Mae’r heddlu wedi dweud o’r blaen y gallai’r pum dyn ifanc oedd yn y Passat fod â chysylltiadau â “gweithgarwch troseddol difrifol a chyfundrefnol”.

Roedd gan bedwar ohonynt euogfarnau troseddol blaenorol, ac roedd amheuon eu bod yn gysylltiedig â cherbyd arall gafodd ei weld yn taro adeiladau’n fwriadol yn gynharach y bore hwnnw.

Cole Robert Worthy, 17 oed, Theo Rae, 17 oed, Makai Saddington, 18 oed, a Michael Robert Cahill a Jacob Matusiak, y ddau yn 23 oed, oedd y pump fu farw yn y Passat.

Rhifau cofrestru

Dywedodd Heddlu Cleveland eu bod wedi derbyn sawl adroddiad y bore hwnnw am ddau gerbyd yn cael eu gyrru’n beryglus.

Cafodd y cerbyd cyntaf, Volvo XC60, ei weld yn taro adeiladau yn ardal Middlesbrough yn fwriadol.

Mae’r heddlu’n credu bod yr ail gerbyd, y Volkswagen Passat, yn gysylltiedig â gweithgarwch y Volvo.

Roedd rhifau cofrestru’r ddau gerbyd wedi’u clonio, ond cafodd y cerbydau eu gweld gan dechnoleg adnabod rhifau cofrestru awtomatig ANPR.

Mae’r Volvo wedi’i ddarganfod ym Middlesbrough.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Cleveland, Wayne Fox: “Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cyflym a chymhleth, gyda chysylltiadau sylweddol â gweithgarwch troseddol difrifol a chyfundrefnol.

“Mae gennym ddyletswydd i ymateb i’r gweithgarwch troseddol difrifol a arweiniodd at y digwyddiad angheuol hwn, ac ymchwilio’n drylwyr iddo, ac i ddod â phawb sy’n gyfrifol o flaen eu gwell.”

Mae mwy na £750,000 wedi’i godi ar gyfer teuluoedd y ddau heddwas. 

Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng y ddau deulu.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.